Rhaglen Seilwaith Digidol
£175 miliwn+ o fuddsoddiad i gyflymu a gwella cysylltedd ledled y rhanbarth sy'n cwmpasu Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Mae buddsoddiad sylweddol wedi bod yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat i wella cysylltedd ar draws ein rhanbarth. Fodd bynnag, yn ôl Adolygiad o'r Farchnad Agored 2021, mae gennym 16,858 o safleoedd nad oes ganddynt fynediad at fand eang boddhaol ac nad ydynt mewn cynlluniau masnachol i'w huwchraddio erbyn mis Hydref 2025. Rydym yn gweithio gyda chyflenwyr, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn mewn sawl ffordd:
Os oes angen cyngor arnoch ynghylch cael band eang gwell, cysylltwch â'ch Swyddog Cefnogi ac Ymgysylltu Seilwaith Digidol lleol. Os hoffech siarad â ni am ein buddsoddiad arfaethedig i helpu cartrefi a busnesau i gael gwell band eang, anfonwch e-bost i digidol@bargenddinesigbaeabertawe.cymru.
£175 miliwn+ o fuddsoddiad i gyflymu a gwella cysylltedd ledled y rhanbarth sy'n cwmpasu Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Rydym wedi ariannu hyrwyddwyr digidol ym mhob awdurdod lleol ar draws y rhanbarth i weithio gyda diwydiant, y llywodraeth, a'n cymunedau sydd â'r cysylltiad gwannaf. Darganfyddwch pwy yw pwy yn ein Tîm Digidol Rhanbarthol, beth maen nhw'n ei wneud a sut y gallant eich helpu i gael gwell cysylltedd.
Mae darparu cysylltedd ar gyfradd gigabit i'n safleoedd sector cyhoeddus sydd o bwysigrwydd strategol a'n parthau twf economaidd yn hanfodol i adeiladu economi ddigidol gynaliadwy yn y rhanbarth a bydd yn gosod y sail ar gyfer gwell
Hwyluso 4G/5G ar draws y rhanbarth. Creu canolfannau rhagoriaeth 5G ar gyfer sectorau allweddol fel iechyd a llesiant, diwydiannau creadigol, ymchwil a datblygu, amaethyddiaeth, twristiaeth, i wireddu manteision 5G, manteisio'n llawn ar y defnydd o Ryngrwyd Pethau a mabwysiadu technoleg newydd.