-
£1.28 biliwn Cyfanswm y Buddsoddiad
-
£241 miliwn Buddsoddiad y Fargen Ddinesig
-
£396 miliwn Buddsoddiad y Sector Cyhoeddus
-
£642 miliwn Buddsoddiad y Sector Preifat
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad digynsail o hyd at £1.3 biliwn ar draws portffolio o naw prif raglen a phrosiect sy'n darparu cyfanswm o 36 o brosiectau unigol ledled siroedd Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.
Arweinir Bargen Ddinesig Bae Abertawe gan bedwar awdurdod lleol - Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe - ynghyd ar Fyrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a phartneriaid yn y sector preifat.
Uchelgais partneriaid y Fargen Ddinesig yw darparu buddion allweddol i’r rhanbarth dros gyfnod o 15 mlynedd gan gynnwys:
- Creu dros 9,000 o swyddi mewn meysydd sy'n cynnwys ynni, gweithgynhyrchu, digidol, iechyd a llesiant, ymchwil a datblygu, addysg, hamdden a thwristiaeth.
- Uwchsgilio 14,000 o bobl drwy 2,200 o gyfleoedd hyfforddi a thros 3,000 o brentisiaethau newydd.
- Cyfrannu £1.8-2.4 billion o effaith economaidd.
Ariennir y Fargen Ddinesig gan Lywodraeth Y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Mae'r rhaglenni a'r prosiectau yn cyd-fynd â thair thema allweddol sef cyflymu'r economi, gwyddor bywyd a llesiant, ynni a gweithgynhyrchu clyfar.
Darllenwch mwy am themâu Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

