-
£176 miliwn Cyfanswm y Buddsoddiad
-
£50 miliwn Fargen Ddinesig
-
£87 miliwn Sector Cyhoeddus
-
£40 miliwn Buddsoddiad y Sector Preifat
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys tair elfen a fydd yn sbarduno datblygiad economaidd a thwf yn Abertawe:
- Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe yng nghanol dinas Abertawe
- Datblygiad swyddfeydd 71/72 Ffordd y Brenin yng nghanol dinas Abertawe.
- Cynllun Matrics Arloesi a Rhodfa Arloesi ar gampws y glannau SA1, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Bydd y prosiect yn darparu:
- 1,281 o swyddi
- 10,684 metr sgwâr o gyfleusterau ar gyfer busnesau â ffocws digidol
- Dros 50 o gyfleoedd a lleoedd ar gyfer busnesau newydd i raddedigion
- Dros 10,000 o wythnosau hyfforddi ar draws adeiladu Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, 71/72 Ffordd y Brenin a'r Matrics Arloesi
- Cyfraniad o £669.8 miliwn tuag at Werth Ychwanegol Gros rhanbarthol
-
Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe
Wedi'i chyflwyno gan Gyngor Abertawe, mae hon yn arena amlbwrpas dan do gyda chapasiti ar gyfer 3,500 o bobl ac mae'n addas ar gyfer cyngherddau, digwyddiadau ac arddangosfeydd sy'n rhan o ardal cam un y Bae Copr gwerth £135m yng nghanol dinas Abertawe.
Darllenwch ragor am Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe
-
71/72 Ffordd y Brenin
Wedi'i gyflawni gan Gyngor Abertawe, mae hwn yn ddatblygiad o swyddfeydd modern yn ninas Abertawe a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi yn y sectorau technoleg a digidol.
-
Matrics Arloesi a Rhodfa Arloesi yn Abertawe
Yn cael ei ddarparu gan PCYDDS bydd y cyfleuster hwn ar gyfer busnesau newydd a fydd yn meithrin entrepreneuriaeth drwy gysylltiadau agos â'r byd academaidd.
Darllenwch ragor am Matrics Arloesi a Rhodfa Arloesi yn Abertawe