-
£25 miliwn Cyfanswm y Buddsoddiad
-
£5 miliwn Fargen Ddinesig
-
£19 miliwn Sector Cyhoeddus
-
£1.5 miliwn Buddsoddiad y Sector Preifat
Clwstwr digidol a chreadigol yw Canolfan S4C Yr Egin, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gampws Caerfyrddin. Mae gan y ganolfan eiconig awditoriwm, cysylltedd cyflym iawn, swyddfeydd a gweithfannau cyfleus o'r radd flaenaf a chyfleusterau ôl-gynhyrchu ar gyfer gweithwyr proffesiynol a rhaglen amrywiol o hyfforddiant a gweithgareddau cymunedol.
S4C, y darlledwr yw’r prif denant ac mae nifer o gwmnïau creadigol a digidol blaenllaw wedi cydleoli yn y ganolfan.
Ers agor yn 2018 mae'r Egin wedi datblygu fel lleoliad diwylliannol, canolfan fusnes a chlwstwr creadigol, catalydd allweddol sy'n ysbrydoli cydweithio, yn datblygu talent ac yn gwella statws y Gymraeg.
Mae dros 50,000 o bobl wedi ymweld â'r Egin i weld première ffilmiau, cynyrchiadau sinema a theatr neu i gymryd rhan mewn cynadleddau, cyfarfodydd a ffrydiau byw.
Yn ystod 2022 cynhaliwyd astudiaeth effaith economaidd a dangosodd y canfyddiadau fod Yr Egin wedi cynhyrchu effaith economaidd o £21.6m i economi Cymru.
Bydd y prosiect hwn, a leolir yn Caerfyrddin yn darpari:
- 427 o swyddi
- Gweithfan 363 metr
- 150 o gyfleoedd sgiliau a hyfforddiant
- 167 o gyfleoedd gwaith adeiladu yn y gweithle
- Cyfraniad o £89.5 miliwn tuag at Werth Ychwanegol Gros rhanbarthol
Mae'r model cyflawni ar gyfer ail gam prosiect Yr Egin yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Brifysgol a'i hymgynghorwyr
Mae'r adeilad wedi cyrraedd lefelau meddiannaeth o 100%, ac mae'r tenantiaid presennol yn cynnwys: