-
£207 miliwn Cyfanswm y Buddsoddiad
-
£40 miliwn Fargen Ddinesig
-
£58 miliwn Sector Cyhoeddus
-
£108 miliwn Buddsoddiad y Sector Preifat
Mae Pentre Awel yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a Cholegau gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe, a dyma'r datblygiad cyntaf o'i gwmpas a'i faint yng Nghymru.
Bydd yn cyfuno ymchwil feddygol o'r radd flaenaf, cyfleusterau datblygu busnes, gofal iechyd cymunedol, byw â chymorth a chanolfan hamdden a gweithgareddau dŵr hollol fodern, i helpu ac i annog pobl i fyw bywydau heini ac iach ac i feithrin busnesau o fewn gwyddorau bywyd, iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant. Bydd cyfleusterau addysg a hyfforddiant hefyd wrth wraidd y prosiect gan ganolbwyntio ar hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o'r gweithlu iechyd gofal cymdeithasol.
Bydd y prosiect hwn yn Sir Gaerfyrddin yn darparu:
- 1,853 o swyddi
- Datblygiad 50,000 metr sgwâr ar draws y pedwar parth
20,000 metr sgwâr sy'n cynnwys cyfleusterau busnes, ymchwil, addysg, clinigol, hamdden a chymunedol o fewn Canolfan (Parth 1) - 80 o fusnesau gwyddorau bywyd, iechyd a gofal cymdeithasol wedi'u sefydlu a'u cefnogi
- Cyfraniad o £467 miliwn tuag at Werth Ychwanegol Gros rhanbarthol