23 Mai 2024, Abertawe - Dyma'r digwyddiad cyntaf o'i fath i gael ei gynnal gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, ac roedd yn cadarnhau oes ddigidol newydd ar gyfer rhanbarth y Fargen Ddinesig, sy'n cwmpasu Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Trwy gydol y dydd, pwysleisiodd y siaradwyr yr angen am gydweithio parhaus rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus i wneud y defnydd gorau o dechnoleg, a hynny i wella canlyniadau iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol i gymunedau, yn ogystal â sbarduno twf posibl y sectorau hynny.
Gyda digon o staff yr awdurdodau lleol yn bresennol, canolbwyntiodd y panel cyntaf ar y daith i 5G a'r tu hwnt, gan siarad yn uniongyrchol â'r gynulleidfa honno, a phwysleisiodd Pete Hollebon o Virgin Media, "Chi yw ceidwaid y gât, ac rydym am gysylltu â chi i wella'r amgylchedd cymdeithasol a ffyniant busnesau. Megis dechrau yw hyn ac mae'n rhan o ddatblygu perthynas hirach i sicrhau gwell cysylltedd.”
Roedd amrywiaeth o siaradwyr arbenigol yno drwy gydol y dydd ac aethpwyd ati i ymdrin â phynciau'n drylwyr. Yn benodol, wrth drafod pryderon iechyd cysylltiedig â 5G, nododd Dr Rob Matthews o Vodafone, "Un o'r heriau yw rhannu gwybodaeth â phobl i sicrhau bod ganddynt y darlun llawn am y dechnoleg, gan sicrhau ein bod yn siarad â rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol, fel ein bod yn sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn rhan o'r broses yn barhaus.”
Roedd y digwyddiad yn llawn felly aethpwyd ati i annog y rhai oedd yn mynychu o bell i ryngweithio â thrafodaethau a chyflwyniadau'r diwrnod i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Dywedodd Gareth Jones, Prif Swyddog Digidol Cyngor Sir Caerfyrddin, a arweiniodd raglen y dydd, "Roedd yn wych gweld faint o bobl yn y rhanbarth sy'n ymddiddori yn y datblygiadau digidol o'u cwmpas a dysgu eu bod yn gymaint rhan o'r broses flaengar honno ag unrhyw un arall.
Roedd clywed eu sylwadau a'u syniadau heddiw yn galonogol iawn ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn sbarduno brwdfrydedd i ddysgu rhagor am fanteision gwell cysylltedd digidol, oherwydd bydd hyn yn caniatáu i'n rhanbarth ffynnu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.”
Bu panelwyr yn trafod yn frwdfrydig eu barn ynghylch datblygu cysylltedd digidol, ond yn bwysicach fyth sut mae hyn yn trawsnewid bywydau pobl a busnesau yn rhanbarth Bae Abertawe.
Gydag ymrwymiad amlwg ein partneriaid rhanbarthol a chydweithio llwyddiannus rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus eisoes yn digwydd, mae rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe mewn sefyllfa dda i elwa ar y manteision o fuddsoddi helaeth a fydd yn sicrhau bod gwell cysylltiadau rhwng cymunedau a bod busnesau'n ffynnu yn y dyfodol.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a wnaeth gloi'r digwyddiad gyda'i weledigaeth ar gyfer Abertawe wirioneddol ddigidol,
“Mae dod â chymaint o arbenigwyr amrywiol yn y diwydiant a chynrychiolwyr y llywodraeth ynghyd i ymdrin â'r pynciau gwerthfawr sy'n dylanwadu ar ddyfodol digidol y rhanbarth yn gyfle gwych. Nid yn unig y bydd hyn yn hyrwyddo cydweithio da a fydd yn hybu prosiectau seilwaith digidol ond bydd hefyd yn sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn barhaus yn y ddeialog o sut i lunio dyfodol digidol yn rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe.”