Daeth mwy na 100 o fusnesau lleol i’r digwyddiad ym Mharc y Scarlets yn Llanelli, lle cawson nhw wybod mwy am y cyfleoedd contract sydd ar gael fel rhan o ymrwymiad Bouygues UK i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau sylweddol i bobl leol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Y datblygiad mawreddog ac arloesol gwerth £87m sy'n cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Caerfyrddin yw'r cynllun adfywio mwyaf yn Ne-orllewin Cymru. Bydd yn dod â gwyddorau bywyd ac arloesi busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli.
Dywedodd Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Pentre Awel Bouygues UK: “Roedd yn wych siarad ag ystod eang o fusnesau lleol am ddatblygiad Pentre Awel a thrafod y ffyrdd y gallen ni gydweithio i gyflawni’r cynllun.
“Fel un a gafodd ei eni ac sy’n byw yng Ngorllewin Cymru, rwy’n frwd dros sicrhau bod cymaint o fusnesau lleol â phosibl â rhan yn y gwaith o adeiladu’r datblygiad hwn. Mae’n amcan allweddol i Bouygues UK i ddarparu cyflogaeth, sgiliau a hyfforddiant i bobl leol a fydd yn gadael gwaddol ymhell ar ôl i’r gwaith adeiladu ar Bentre Awel ddod i ben.”
“Pentre Awel yw un o’r cynlluniau adfywio mwyaf o’i fath yn yr ardal hon ac mae’n bwysig bod y gymuned leol yn gwybod nad oes yr un busnes yn rhy fawr nac yn rhy fach i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael,” meddai Peter ymhellach.
Mae’r cynllun gwirioneddol gydweithredol yn cael ei ddarparu ar gyfer y gymuned leol gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a cholegau ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn). Y bwriad yw creu tua 1,800 o swyddi dros 15 mlynedd a rhoi hwb o fwy na £450m i’r economi leol.
Roedd rhanddeiliaid lleol eraill a oedd â chynrychiolwyr yn y digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr yn cynnwys: Busnes Cymru, Coleg Sir Gȃr, Cymunedau am Waith, Constructionline, Sgiliau Adeiladu Cyfle, Helo Blod, Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Whitehead (Prif Gontractwr M&E) a Gweithffyrdd.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Un o amcanion allweddol Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n gysylltiedig â’r prosiect yw darparu rhaglen sylweddol o fuddion cymunedol ac adfywio economaidd ar draws y sir.
“Mae’n bwysig iawn fod is-gontractwyr lleol yn derbyn cyfran sylweddol o’r buddion hynny, a dyna pam roedd y digwyddiad hwn yn allweddol i ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi leol a rhoi cyfle iddynt wybod sut y gallan nhw ymgysylltu â’r prosiect.
“Roedd yn wych bod Bouygues UK wedi gallu cyfarfod â chymaint o fusnesau lleol gyda’r bwriad o gefnogi’r nod hwnnw o ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy a dangos ei ymrwymiad i’n helpu i gyflawni ein hamcanion buddion cymunedol allweddol.”
Bydd Bouygues UK yn hyrwyddo cyfleoedd pellach i fusnesau lleol yn gwerthwchigymru.llyw.cymru o fis Mehefin, sy'n arwain at ddechrau’r gwaith adeiladu yn hydref 2022.