Cynhaliodd ddigwyddiad gan Cyngor Sir Gâr a Bouygues UK i ddathlu hysbysfyrddau newydd sbon a ddyluniwyd gan fyfyrwyr Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr yn y datblygiad newydd o fri, Pentre Awel, sy’n werth miliynau o bunnoedd.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio’n sylweddol ar fuddion i’r gymuned a chafodd myfyrwyr colegau lleol y dasg o ddylunio hysbysfyrddau newydd ar gyfer y safle sy’n nodi sut mae Pentre Awel yn cyflawni 7 nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Ymgymerwyd â’r prosiect dylunio, sydd bellach i’w weld ar yr hysbysfyrddau o amgylch y safle adeiladu, fel rhan o gwricwlwm myfyrwyr y coleg ac mae pob panel yn cynrychioli pob un o’r nodau llesiant, gan gyd-fynd ag ethos a diben cyffredinol datblygiad Pentre Awel.

Meddai Nina Williams, cynghorydd gwerth cymdeithasol Bouygues UK ar gyfer Pentre Awel:

Mae datblygiad Pentre Awel yn brosiect adfywio allweddol ir Fargen Ddinesig Bae Abertawe a Cyngor Sir Gâr a fydd yn cael effaith gadarnhaol aruthrol ar y rhanbarth a’r bobl sy’n byw yn y gymuned am flynyddoedd i ddod.
I gydnabod yr effaith gadarnhaol hon, buom ni yn Bouygues UK yn gweithio ochr yn ochr â Choleg Sir Gâr i ddyfeisio prosiect dylunio ar gyfer myfyrwyr y coleg. Roedden ni am i'r hysbysfyrddau o amgylch mynedfa'r safle gael eu dylunio i fynegi'r effeithiau cadarnhaol y bydd Pentre Awel yn eu cael ar y gymuned leol. Mae’r myfyrwyr wedi gwneud gwaith anhygoel, i gyd yn cynhyrchu gwaith rhagorol sy’n portreadu gwerthoedd craidd Pentre Awel mewn ffordd drawiadol sy’n ysgogi’r meddwl.

 

Meddai Dr Ashley Wallington, Cyfarwyddwr y Cwricwlwm yng Ngholeg Sir Gâr:

Rhoddodd y gwaith o ddatblygu’r hysbysfyrddau ar gyfer safle Pentre Awel ‘frîff byw’ gwerthfawr i’n dysgwyr Celf a Dylunio yng Ngholeg Sir Gâr, gan roi cyfle iddyn nhw gydweithio â chyflogwr mawr ar brosiect yn y byd go iawn. Gan weithio gyda'u cleient, roedden nhw’n mireinio sgiliau cyflogadwyedd allweddol a nodweddion sy'n hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Rydyn ni mor ddiolchgar am y cyfle a roddwyd iddynt.

Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae cael y cyfle i gwrdd â phobl ifanc Coleg Sir Gâr sydd wedi creu’r darnau gwych hyn o waith celf wedi bod yn brofiad gwerth chweil.  Trwy eu gwaith celf, mae’r myfyrwyr yn dangos eu gweledigaeth o’r hyn y mae Pentre Awel yn ei olygu iddyn nhw ac rwy’n falch bod y rhain yn cael eu harddangos i’r cyhoedd eu gweld. Fel y dywedwyd ar y byrddau, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i Bentre Awel, sef datblygiad y gall pawb gael mynediad iddo. Diolch i’r myfyrwyr a’u tiwtoriaid am eu holl waith caled ar y prosiect hwn.

Mae Pentre Awel yn gynllun gwirioneddol gydweithredol sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y gymuned leol gan Gyngor Sir Gâr mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a cholegau ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn). Ei nod yw creu tua 1,800 o swyddi dros 15 mlynedd a rhoi hwb o fwy na £450m i’r economi leol.

Bydd y datblygiad yn cynnwys canolfan hamdden a phwll hydrotherapi newydd o'r radd flaenaf ynghyd â gofod addysg, ymchwil a datblygu busnes; canolfan ymchwil a darparu clinigol; a chanolfan sgiliau lles. Yn allanol, bydd gan Bentre Awel fannau cyhoeddus awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer hamdden, cerdded a beicio.

Roedd y prosiect dylunio hwn yn rhan o ymrwymiad Bouygues UK i ddarparu gwerth cymdeithasol ac ymgysylltiad sylweddol i ysgolion, colegau a phrifysgolion cyfagos. Mae ganddo gynllun llysgenhadon ysgol a llysgenhadon cymunedol hefyd.

image