Mae gan fwy na hanner y sir well band eang bellach ac mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn anelu at gynyddu hynny ymhellach.
Mae Sir Gaerfyrddin, rhan o Gymru sy'n wledig yn bennaf, yn falch o gyhoeddi carreg filltir bwysig ar ei thaith tuag at gael gwell band eang. Gall 60% o gartrefi a busnesau yn y sir bellach gael mynediad i fand eang ffeibr llawn o gymharu â 25% yn 2021.
Mae hyn yn dipyn o gamp, ac mae llawer o leoedd anodd eu cyrraedd bellach yn elwa ar fand eang cyflymach a mwy dibynadwy. Mae'r garreg filltir hon yn deillio o gydweithredu agos llwyddiannus dan arweiniad Hyrwyddwyr Digidol yr awdurdod lleol sydd wedi ymgysylltu'n barhaus ag amrywiol randdeiliaid, gan gynnwys darparwyr Rhwydwaith Amgen (AltNets) Voneus a WeFibre, darparwyr prif ffrwd fel Openreach, yn ogystal â chymunedau i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r manteision sy'n gysylltiedig â gwell cysylltiadau a'r ffyrdd y gallant sicrhau bod hynny'n digwydd.
Drwy feithrin ethos 'cysylltedd drwy gydweithredu' y rhaglen, mae Sir Gaerfyrddin wedi gwneud pob ymdrech i wella ei seilwaith digidol i sicrhau cysylltedd dibynadwy i'w thrigolion a'i busnesau.
Dywedodd Hazel Evans, un o Gynghorwyr Sir Gaerfyrddin, “Mae hwn yn gam enfawr ymlaen i sir sydd â llawer o ardaloedd anoddach eu cyrraedd. Mae'n galonogol gweld bod gan gymaint yn fwy o bobl y cysylltedd gwell sydd ei angen bellach i sicrhau eu bod yn gallu ffynnu'n gymdeithasol ac yn economaidd ac rwy'n hyderus y byddwn yn datblygu hyn ymhellach i sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn gwbl ddigidol gynhwysol yn y dyfodol.”
Mae llwyddo i gyrraedd y garreg filltir hon o 60% yn Sir Gaerfyrddin nid yn unig yn cynnig mwy o fanteision cymdeithasol ac economaidd i'w thrigolion, ond mae hefyd yn golygu bod cyfle i fuddsoddi ymhellach drwy fabwysiadu technoleg ddatblygol mewn sectorau allweddol fel twristiaeth ac amaethyddiaeth.
Drwy weithio'n agos gydag Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ffrydiau cyllido, mae tîm digidol Sir Gaerfyrddin wedi gallu hwyluso lefel uchel o gefnogaeth i brosiectau seilwaith digidol, yn ogystal â galluogi cymunedau i fynd ati i hyrwyddo gwell cysylltedd yn eu hardaloedd.
Mae llawer o'r gwaith yn y cefndir yng Nghyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn rhan annatod o gyrraedd y garreg filltir hon, lle mae perthynas waith agos â chynghorwyr cymuned a sir cefnogol, adrannau priffyrdd, cynllunio a seilwaith yn y cyngor, i gyd wedi cyfrannu at gyflawni prosiectau yn llwyddiannus.
Dywedodd Simon Davies, Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, “Mae cyrraedd y garreg filltir o ffeibr llawn o 60% yn y sir yn gyflawniad gwych ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ein Hyrwyddwyr Digidol yn ogystal â'r adrannau mewnol niferus sy'n cydweithio i wireddu'r cynlluniau ar gyfer gwell band eang. Drwy weithio'n agos gyda'r Tîm Seilwaith Digidol, rwy'n sicr y byddwn yn cynyddu'r ganran honno eto yn y dyfodol agos iawn gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”
Mae taith Sir Gaerfyrddin i wella cynhwysiant digidol eisoes wedi cael effaith gadarnhaol bendant drwy gyrraedd 60%. Nod pendant y Rhaglen Seilwaith Digidol yw gwella hynny hyd yn oed ymhellach, drwy gydweithio â mentrau Llywodraeth y DU fel Project Gigabit, gan wneud Sir Gaerfyrddin yn sir ddigidol flaenllaw, a fydd yn helpu ei busnesau a'i chymunedau i ffynnu.