Bydd Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn hwyluso'r defnydd o dechnolegau a dyluniadau sy'n effeithlon o ran ynni mewn miloedd o gartrefi ledled De-orllewin Cymru fel rhan o brosiect arloesol gwerth miliynau o bunnoedd.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bellach wedi cymeradwyo prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a fydd o fudd i breswylwyr a busnesau yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot, bydd y prosiect hwn sydd gwerth £505 miliwn yn:
- Helpu miloedd o bobl i arbed arian ar eu biliau ynni.
- Cyfrannu ymhellach at leihau allyriadau carbon yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.
- Gwella iechyd a lles miloedd o breswylwyr.
- O fudd i fusnesau cadwyni cyflenwi rhanbarthol.
Trwy weithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, datblygwyr preifat a phartneriaid eraill, bydd y prosiect yn defnyddio technolegau a dyluniadau sy'n effeithlon o ran ynni i ôl-osod 7,000 o dai ledled y Dinas-ranbarth fel rhan o'r prosiect, a bydd 3,300 o dai newydd hefyd yn elwa ar hyn.
Mae cael sêl bendith oddi wrth y ddwy lywodraeth yn golygu y gall prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer ddechrau manteisio ar fuddsoddiad gwerth £15 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Bydd y camau nesaf yn cynnwys sefydlu tîm prosiect pwrpasol, ynghyd â chronfa cymhellion ariannol ranbarthol wedi'i thargedu a chronfa datblygu'r gadwyn gyflenwi ranbarthol. Bydd canolfan rhannu gwybodaeth mynediad agored hefyd yn cael ei datblygu i rannu dysgu ar draws y rhanbarth.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig: "Mae'n wych bod prosiect arall y Fargen Ddinesig yn ein portffolio gwerth £1.3bn wedi cael cymeradwyaeth lawn ac y bydd yn awr yn dechrau ar y cam cyflawni.
“Yn enwedig gan y gallai'r dechnoleg a ddarperir fel rhan o'r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer helpu i ostwng y biliau tanwydd i lawer o breswylwyr ar draws De-orllewin Cymru, ynghyd â manteision iechyd a llesiant ychwanegol gyda'r nod o leihau'r baich ar y GIG a'n darparwyr gofal cymdeithasol”.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Latham, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae'r prosiect arloesol hefyd yn ategu Strategaeth Ynni Adnewyddadwy a Datgarboneiddio Cyngor Castell-nedd Port Talbot wrth ffurfio rhan o ymateb rhanbarthol i ddatganiad Argyfwng Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru yn 2019.
“Y bwriad yn y lle cyntaf yw profi cysyniad Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn y sector cyhoeddus ar raddfa gymharol fach cyn cynyddu gweithgaredd mewn sectorau eraill. Bydd hyn yn dangos hyfywedd y cysyniad i weddill Cymru a’r DU, gan helpu i greu diwydiant newydd yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.
“Wrth i'r rhanbarth oresgyn Covid-19, bydd ffocws y prosiect ar fusnesau cadwyni cyflenwi rhanbarthol hefyd yn helpu i gyflymu ein hadferiad economaidd o'r pandemig mewn ffordd werdd a chynaliadwy, ar y cyd â llawer o brosiectau eraill ar draws De-orllewin Cymru sydd bellach yn symud ymlaen i'w cyflawni.
“Bydd buddsoddiad y Fargen Ddinesig hefyd yn galluogi gwaith monitro a gwerthuso manwl o ran y technolegau effeithlonrwydd ynni sy'n cael eu cyflwyno gyda gweddill cyllid y prosiect yn dod o raglenni eraill y sector cyhoeddus a'r sector preifat."
Dywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi: “Efallai mai'r ymrwymiadau pwysicaf yn ein rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw ymgorffori ymateb Cymru i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn. Mae hwn yn drawsnewidiad sy'n gallu dechrau yn ein cymunedau lleol, gan ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol ac osgoi gwastraff.
“Mae'n bwysig ein bod ni'n gallu gwneud hynny mewn ffordd sy'n cefnogi pobl a swyddi; bydd y prosiect hwn nid yn unig yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni, ond hefyd o fudd enfawr i'r gadwyn gyflenwi leol.”
Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru: “Mae cyflawni prosiectau trawsnewidiol ledled Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU a dyna pam yr ydym wedi cefnogi bargeinion twf ar draws pob rhan o'r wlad.
“Bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o bobl ar draws De-orllewin Cymru yn ogystal â chyfrannu tuag at ein hymgyrch sero-net erbyn 2050. Mae Bargeinion Twf yn rhyddhau potensial pob rhan o Gymru yn ogystal â chael yr economi i symud wrth i ni ddod allan o'r pandemig.”
Mae'r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn cyd fynd â nifer o brosiectau eraill y Fargen Ddinesig, gan gynnwys seilwaith digidol, sgiliau a thalent, a chefnogi arloesedd a thwf carbon isel. Mae'r prosiect hefyd yn cyd-fynd â gwaith y Ganolfan Adeiladu Gweithredol ym Mhrifysgol Abertawe, sef canolfan ragoriaeth y DU ar gyfer trawsnewid adeiladu, ac mae'n adeiladu ar y cysyniad dylunio Adeiladau Ynni Gweithredol a gafodd ei harloesi gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio sy'n cynnwys naw o raglenni a phrosiectau mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sydd ar y cyd gwerth dros £1.8 biliwn a 9,000 o swyddi i economi'r rhanbarth yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.