Cysylltedd drwy gydweithredu

Mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn bartneriaeth sydd wedi'i sefydlu'n ffurfiol rhwng pedwar awdurdod lleol - Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, dau fwrdd iechyd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a dwy brifysgol - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.

Mae seilwaith digidol yn thema drawsbynciol drwy holl brosiectau a rhaglenni Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae'n hanfodol o ran cyflawni strategaethau trawsnewid digidol ein partner, twf economaidd ein rhanbarth a gwella cynhwysiant cymdeithasol.

Rydym yn credu'n gryf y gallwn ond cyflawni dyheadau ein rhaglen drwy weithio ar y cyd â diwydiant, y llywodraeth, a'n partneriaid. Rhannu'r llwyddiannau a'r heriau, defnyddio data i wneud penderfyniadau a bod yn ystwyth yn ein dull o weithredu.

Mae'r Rhaglen Seilwaith Digidol yn cael ei rhoi ar waith yn llawn ar draws y tair ffrwd waith - Lleoedd Cysylltiedig, Gwledig a Rhwydwaith Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf.

Ewch i wefan y rhaglen i gael rhagor o wybodaeth.