Rhaglen Seilwaith Digidol
£175 miliwn+ o fuddsoddiad i gyflymu a gwella cysylltedd ledled y rhanbarth sy'n cwmpasu Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Bydd y ffrwd waith hon yn hwyluso'r broses o gyflwyno 4G/5G ar draws y rhanbarth, gan fynd i'r afael â signal ffonau symudol a materion capasiti. Rydym yn cydweithio â phrosiectau a rhaglenni eraill y Fargen Ddinesig i greu canolfannau rhagoriaeth 5G ar gyfer sectorau allweddol, fel iechyd a llesiant, diwydiannau creadigol, ymchwil a datblygu, i wireddu manteision 5G, manteisio'n llawn ar y defnydd o Ryngrwyd Pethau a mabwysiadu technoleg newydd.
Mae'r seilwaith a rennir sy'n cael ei roi ar waith drwy'r rhaglen hon gan Lywodraeth y DU yn hanfodol i leihau mannau rhannol wan a hollol wan mewn rhai o'r ardaloedd â'r gwasanaeth gwaethaf yn ein rhanbarth.
Rydym yn cydweithio'n agos â chymunedau a fydd yn elwa o'r rhaglen i sicrhau eu bod yn sylweddoli pa gyfleoedd a ddaw yn sgil hyn i'w hardal a bod y rhaglen yn sensitif o ran amser, a gwrando ar unrhyw bryderon sydd ganddynt.
Mae ein Rheolwyr Seilwaith y Genhedlaeth Nesaf yn cysylltu â gweithredwyr rhwydweithiau symudol, eu hasiantau, Llywodraeth y DU ac adrannau mewnol awdurdodau lleol i hwyluso pob prosiect adeiladu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y Rhwydwaith Gwledig a Rennir. Gall ein timau ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Rydym yn awyddus i weithio gyda gweithredwyr rhwydweithiau symudol a chynhalwyr niwtral i fynd i'r afael ag unrhyw faterion o ran capasiti rhwydweithiau symudol a nodwyd yn y rhanbarth. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol i ddatblygu proses gaffael symlach ar gyfer defnyddio asedau'r sector cyhoeddus i roi seilwaith symudol ar waith.
Rydym yn rhoi 240+ o byrth LoRaWAN ar waith ledled y rhanbarth a fydd yn galluogi'r sector preifat a'r sector cyhoeddus i dreialu'r defnydd o dechnoleg Rhyngrwyd Pethau.
Rydym yn gweithio gyda phrosiectau a rhaglenni partner i sefydlu canolfannau rhagoriaeth 5G sy'n targedu sectorau allweddol sy'n economaidd arwyddocaol. Mae nifer o gyfleoedd yn cael eu harchwilio, gan gynnwys y canlynol:
Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o'r prosiectau cyffrous hyn, cysylltwch â ni.
£175 miliwn+ o fuddsoddiad i gyflymu a gwella cysylltedd ledled y rhanbarth sy'n cwmpasu Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Rydym wedi ariannu hyrwyddwyr digidol ym mhob awdurdod lleol ar draws y rhanbarth i weithio gyda diwydiant, y llywodraeth, a'n cymunedau sydd â'r cysylltiad gwannaf. Darganfyddwch pwy yw pwy yn ein Tîm Digidol Rhanbarthol, beth maen nhw'n ei wneud a sut y gallant eich helpu i gael gwell cysylltedd.
Mae darparu cysylltedd ar gyfradd gigabit i'n safleoedd sector cyhoeddus sydd o bwysigrwydd strategol a'n parthau twf economaidd yn hanfodol i adeiladu economi ddigidol gynaliadwy yn y rhanbarth a bydd yn gosod y sail ar gyfer gwell
Rydym yn gweithio gyda chymunedau a busnesau yn y rhannau anoddaf i'w cyrraedd o'n rhanbarth i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i fand eang gwell. Mae ein tîm o hyrwyddwyr digidol wrth law i roi gwybodaeth am gynlluniau talebau a thechnoleg amgen megis 4G a lloeren.