Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o raglenni a phrosiectau mawr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei hariannu, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes prosiectau, gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Bydd y Fargen Ddinesig yn para am 15 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn, bydd y portffolio buddsoddi yn rhoi hwb o hyd at £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol gan greu mwy na 9,000 o swyddi.
Mae rhaglenni a phrosiectau'r Fargen Ddinesig yn seiliedig ar themâu allweddol gan gynnwys cyflymu'r economi, gwyddor bywyd a llesiant, ynni, gweithgynhyrchu clyfar a digidol.
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol yn y rhanbarth, sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro, ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phartneriaid o'r sector preifat.
Mae cyfanswm y pecyn buddsoddi a amcangyfrifir ar hyn o bryd yn cynnwys cyllid o £235.7 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, £330.2 miliwn o gyllid cyhoeddus arall a £591.79 miliwn gan y sector preifat.