Cwrdd â'r Tîm
Rheolir Bargen Ddinesig Bae Abertawe (BDBA) gan y Swyddfa Rheoli Portffolio (PoMO) sy'n gyfrifol am redeg y Portffolio o ddydd i ddydd.
Mae'r PoMO yn goruchwylio'r gwaith o'r lywodraethu a diwydrwydd dyladwy'r BDBA ynghyd â chyflwyno Achos Busnes rhaglenni a phrosiectau.
Mae’r PoMO hefyd yn rheoli gweithgareddau cyfathrebu, marchnata ac ymgysylltu ar gyfer y Portffolio, ac mewn cysylltiad rheolaidd a thimau prosiect y Fargen Ddinesig ac aelodau’r bwrdd llywodraethu.
Cefnogir y BDdBA hefyd gan Swyddog Adran 151 Cyngor Sir Caerfyrddin a Swyddog Monitro Cyngor Abertawe yn rhan o swyddogaethau statudol y Portffolio.
Chris Moore Swyddog Adran 151 BDdBA a Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mae Chris yn gyfrifol am weinyddu materion y Cyd-bwyllgor o dan Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac mae'n gyfrifol yn gyffredinol am weinyddu cyllid y Fargen Ddinesig.
Debbie Smith Swyddog Monitro BDdBA a Dirprwy Swyddog Monitro i Cyngor Sir Abertawe.
Mae Debbie yn gyfrifol am sicrhau trefniadau llywodraethu da ac am gynnal y safonau moesegol uchaf, gan sicrhau cyfreithlondeb y trefniadau a chydymffurfiaeth â Chytundeb y Cyd-bwyllgor.