Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn un o bedair Bargen Ddinesig a Thwf yng Nghymru a oruchwylir gan Fwrdd Gweithredu Bargeinion Dinesig a Thwf Cymru. Mae hwn yn Fwrdd ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros y Bargeinion Dinesig a Thwf yng Nghymru. 

Mae'r Bwrdd yn darparu sicrwydd a chyngor i'r Cyd-gadeiryddion ynghylch materion strategol a gweithredol, rhyddhau cyllid i'r Portffolio, goruchwylio a monitro prosiectau, a threfniadau llywodraethu a sicrwydd effeithiol. 

Mae gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe strwythur llywodraethu cadarn ar waith i sicrhau rheolaeth effeithiol a thryloyw o ran y Portffolio.

governance

Cyd-bwyllgor (CB)

Yn cynnwys y pedwar Arweinydd Awdurdod Lleol rhanbarthol, yn ogystal ag uwch gynrychiolwyr o bob un o'r with prif sefydliad partner, mae'n dwyn y Bwrdd Rhaglen (Portffolio) a'r Swyddfa Rheoli Portffolio i gyfrif, ac yn gyfrifol yn gyffredinol am graffu a chymeradwyo.

Cadeirydd, Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe

Bwrdd Rhaglen (Portffolio) (BRh)

Yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediadau Bwrdd Rhaglen (Portffolio) y Fargen Ddinesig sy’n derbyn diweddariadau ar gynnydd y Portffolio ac yn adolygu risgiau, materion a newidiadau i’r broses o gyflawni achosion busnes.

Cadeirydd, Wendy Walters, Prif Weithredwr o Gyngor Sir Caerfyrddin

Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE)

Corff cynghori'r sector preifat sy'n gweithredu fel llais busnes. Mae’r BSE yn rhoi cyfarwyddyd strategol ar gyfer y Fargen Ddinesig drwy roi cyngor i'r Cydbwyllgor ar faterion sy'n gysylltiedig â'r Ddinas-ranbarth.

Cadeirydd, Chris Foxall, Prif Swyddog Gweithredol o Hyppo Hydrogen Solutions.

Cyd-bwyllgor Craffu

Mae’r Pwyllgor yn cynghori, herio a chefnogi'r Cyd-bwyllgor ac yn cynnwys tri aelod etholedig o bob un o'r pedwar awdurdod lleol.

Cadeirydd, Cynghorydd Tim Bowen, Aelod Etholedig o Gyngor Castell-nedd Port Talbot