Themâu y Fargen Ddinesig
Mae’r prosiectau a’r rhaglenni o fewn Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi’u halinio â thair thema a fydd yn helpu i fynd i’r afael â heriau strwythurol a lleihau’r bwlch o ran perfformiad economaidd rhwng Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gweddill y DU. Y themâu hyn yw:
- Cyflymu'r Economi
- Gwyddor Bywyd a Llesiant
- Ynni a Gweithgynhyrchu Clyfar
Mae gan y themâu botensial o ran twf ac maent yn cyd-fynd â chreu swyddi uwch-dechnoleg a gwerth uwch drwy gwmnïau newydd a denu mewnfuddsoddiad gan fusnesau mwy.
Maent hefyd yn feysydd ffocws lle mae'r rhanbarth wedi dechrau adeiladu sylfeini i symud ymlaen drwy ymchwil a datblygu, seilwaith, adnoddau naturiol, sgiliau a buddsoddiadau cyflenwol.
Ynni a Gweithgynhyrchu Clyfar
Rhoi'r rhanbarth ar flaen y gad o ran arloesi ym maes ynni a gweithgynhyrchu fel rhan o'r ymgyrch tuag at economi carbon isel a chryfhau'r sylfaen weithgynhyrchu bresennol.
-
£635 Cyfanswm o Buddsoddiad
-
£620 miliwn Gwerth Gros Ychwanegol
-
5,005 Swyddi Newydd
- 11,047 metr sgwâr o seilwaith ffisegol wedi'i greu
- Dros 10 o brosiectau band eang cymunedol
- Dros 200 o safleoedd sector cyhoeddus wedi'u huwchraddio i ffibr llawn
- Dros 250 o byrth rhyngrwyd pethau wedi'u gosod
- 2,200 o gyfleoedd sgiliau a datblygu ychwanegol
- 14,000 o gyfleoedd uwchsgilio
- 3,000 o gyfleoedd prentisiaeth newydd
- 20 o fframweithiau cyrsiau newydd wedi'u creu
- Arena dan do â lle i 3,500 o bobl wedi'i hadeiladu
- Dros 50 o gyfleoedd i gwmnïau newydd gan raddedigion
- Dros 25 o fusnesau bach yn y sector creadigol wedi'u cynnal
Gwyddor Bywyd a Llesiant
Darparu datblygiadau integredig a fydd yn cyfuno cyfleusterau arloesi, ymchwil a dysgu arloesol â busnesau newydd o fewn meysydd gwyddorau bywyd, iechyd, llesiant a chwaraeon.
-
£342 miliwn Cyfanswm y Buddsoddiad
-
£617 miliwn Gwerth Gros Ychwanegol
-
2,973 Swyddi Newydd
- 64,700 metr sgwâr o seilwaith ffisegol wedi'i greu
- 80 o fusnesau gwyddor bywyd wedi'u sefydlu/cefnogi
- Dros 300 o gwmnïau clwstwr wedi'u cefnogi
- Dros 100 o gyfleoedd arloesi a masnachol
Cyflymu'r Economi
Darparu’r lle, y sgiliau a’r cysylltedd i yrru’r economi ranbarthol ymlaen I ddarparu cyfleoedd newydd i’n busnesau a’n cymunedau ffynnu.
-
£301 million Cyfanswm y Buddsoddiad
-
£1.08 billiwn Gwerth Gros Ychwanegol
-
1,708 Swyddi Newydd
- 79,100 metr sgwâr o seilwaith ffisegol wedi'i greu
- Gosodwyd technoleg adnewyddadwy ar 10,300 o gartrefi newydd a chartrefi presennol
- Arbedwyd dros 10,417 kWh o ynni
- Dros 19,000 tunnell o ostyngiadau CO2 y flwyddyn
- Cronfa datblygu eiddo gwerth £10 miliwn
- 45 o fentrau yn cyfrannu at ymchwil ac arloesi
- Cyfraniad o 1,000 MW at dargedau datgarboneiddio.