Digwyddiadau Cwrdd â’r Fargen Ddinesig

Mae digwyddiadau'n chwarae rhan fawr wrth hyrwyddo Bargen Ddinesig Bae Abertawe a chefnogi gweithgarwch rhaglenni a phrosiectau.
Yn ystod 2023-24 cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ‘Cwrdd â’r Fargen Ddinesig’ llwyddiannus iawn, un ym mhob ardal Awdurdod Lleol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.
- Canolfan Arloesedd y Bont, Sir Benfro;
- Yr Egin, Sir Gaerfyrddin;
- Arena Abertawe, Abertawe;
- Orendy Margam, Castell-nedd Port Talbot
Cynrychiolwyd holl raglenni a phrosiectau’r Fargen Ddinesig ynghyd â sefydliadau cymorth fel Busnes Cymru
Roedd y digwyddiadau yn agored i fusnesau a sefydliadau lleol ac yn darparu cyfleoedd i ymgysylltu a rhwydweithio. Rhoddodd y digwyddiadau gyfle i rannu gwybodaeth am grantiau a chymorth busnes sydd ar gael.
-
4 Digwyddiad
-
31 Arddangoswyr
-
509 Wedi cofrestri
-
296 Yn bresennol, 58% oedd wedi cofrestri
-
74% Yn bresenol o'r sector preifat
-
20% Oed yn bresennol wedi ateb yr arolwg
-
80% Bydda yn dod i ddigwyddiad yn y dyfodol
-
84% O'r farn fod y digwyddiadau'n fuddiol
James Owen, Cyfarwyddwr Creadigol, Stori Cymru
"Mae hi wedi bod yn wych cael cyfarfod â thîm y Fargen Ddinesig a’r rhwydwaith ehangach yn y digwyddiadau ymgysylltu hyn. Rwyf wedi meithrin perthnasoedd cryf â Bargen Ddinesig Bae Abertawe oherwydd hyn, ac rwy'n falch o ddweud fy mod wedi gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i ddatblygu fideo i hyrwyddo'r cynllun yn sgil cyflwyniad gan y tîm."
Howard Jacobson, Rheolwr Ymgysylltu'r Gadwyn Gyflenwi, Busnes Cymru
"Mae Digwyddiadau Cwrdd â Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi rhoi cyfleoedd na ellir eu colli i Fusnes Cymru ymgysylltu â busnesau bach a chanolig lleol wyneb yn wyneb a’u gwneud yn ymwybodol o sut i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i ganfod contractau sector cyhoeddus a sector preifat mawr, gwneud cais amdanynt a’u hennill.
Yn ogystal â hynny, maen nhw'n galluogi Busnes Cymru i amlygu a rhannu'r gwasanaeth a gyllidir yn llawn gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cymorth cyffredinol i fusnesau, a chymorth ar gyfer lleihau carbon, cadwynau cyflenwi, sgiliau, AD a masnach ryngwladol."