Mae Cyfle, cwmni arweiniol ym maes darparu sgiliau adeiladu a phrentisiaethau, wedi cwblhau ei brosiect peilot yn llwyddiannus, gan gydweithio ag ysgolion a cholegau yn y rhanbarth i godi ymwybyddiaeth o dechnolegau carbon sero net a charbon isel o fewn y sector adeiladu. Wedi’i gysylltu’n agos â nifer o brosiectau’r Fargen Ddinesig, ei nod oedd mynd i’r afael â’r angen brys i leihau carbon yn y diwydiant adeiladu trwy ddarparu hyfforddiant lleihau carbon sy’n berthnasol i’r diwydiant. 

Erbyn diwedd y prosiect, roedd Cyfle wedi rhoi’r sgiliau angenrheidiol i unigolion i ddiwallu’r galw cynyddol am arbenigedd yn y maes hwn ac wedi rhagori ar ei dargedau. Roedd y canlynol ymhlith y cyflawniadau allweddol: 

•    Enillodd 1,124 o unigolion sgiliau ychwanegol.
•    Cafodd 157 o bobl gymorth i gael prentisiaethau.
•    30 o ddisgyblion wedi ymgysylltu â sgiliau ychwanegol.
•    164 o unigolion wedi cael eu cefnogi i gael swyddi.

Dywedodd dysgwr o Goleg Sir Gâr:

“Rwy’n credu ei bod yn syniad gwych bod busnesau’n dod i mewn i siarad am eu busnes oherwydd ei fod yn ehangu fy ngwybodaeth ac yn rhoi dealltwriaeth i mi o’u hamcanion ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Abigail Salini, Thermal Earth:

“Mae’n wirioneddol bwysig i ni fynychu colegau lleol i addysgu myfyrwyr am dechnoleg adnewyddadwy. Wrth fynd drwy’r brentisiaeth, mae’n addysgu’r prentis am y technolegau adnewyddadwy sydd ar gael a’r rhai y gallant eu rhoi ar waith yn eu gweithle yn ogystal â sefydlu beth all effeithio arnynt yn ddiweddarach yn eu hoes drwy newid hinsawdd.”