Sero Net mewn Adeiladwaith
Mae Bouygues UK, y prif gontractwr sy’n adeiladu Pentre Awel, wedi gweithio gyda’i isgontractwyr a’i gadwyn gyflenwi drwy gydol y cyfnod adeiladu o 24 mis i gyflawni sero net ar y cam adeiladu.
Mae hyn yn cynnwys:
• Gostyngiad o dros 90% ar allyriadau uniongyrchol o bob tanwydd ar y safle
• Gostyngiad o 10% mewn cynhyrchu gwastraff a defnyddio ynni a dŵr
Mae hyn wedi arwain at arbediad o dros 450 tunnell o allyriadau carbon.
Mae’r prosiect wedi gweithredu mentrau arbed ynni, gwastraff ac adnoddau, gan gynnwys:
• Mabwysiadu olew llysiau wedi’i drin â hydrogen (HVO) fel tanwydd, sy’n ardystiedig o ran cynaliadwyedd. Bydd y fenter hon yn cael ei chyflwyno i bob un o safleoedd Bouygues UK ledled y DU.
• Cyrchu deunyddiau wedi’u hailgylchu a rhai gwyrdd.
Targedwyd 24 o fentrau penodol i helpu i leihau allyriadau, gwastraff ac ynni, gan gynnwys:
• Swyddfa ar y safle a chamerâu teledu cylch cyfyng sy’n defnyddio ynni’r haul.
• Cyrchu deunyddiau adeiladu wedi’u hailgylchu, gan gynnwys bariau wedi’u hatgyfnerthu â 98% o gynnwys eildro a dur adeileddol ag 80% o gynnwys eildro.
• Cludo pridd o’r wyneb yn ystod gwaith cloddio i gyfleuster ailgylchu lleol i’w wahanu, ei drin a’i ailddefnyddio.
• Partneriaeth â Gaia i nodi, monitro a lleihau’r defnydd o bŵer gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a synwyryddion. Roedd yr arbedion ynni drwy ddefnyddio Gaia yn 47.9%.
• Cael ymgynghorydd ar garbon i nodi datrysiadau carbon isel; monitro gwastraff, carbon a chyflenwadau; ac uwchsgilio’r gweithlu ar bynciau’n ymwneud â’r hinsawdd a’r amgylchedd.
Dywedodd Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Pentre Awel:
“Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni.Yn ogystal ag adeiladu cyfleuster o’r radd flaenaf ac o ansawdd uchel, fel tîm y prosiect fe benderfynon ni leihau cymaint o’n hallyriadau carbon â phosibl. Fe wnaethon ni roi cynllun ar waith ac rwyf mor falch o ddweud ein bod ni wedi’i gyflawni.
“Ni fyddai hyn wedi digwydd oni bai am benderfynoldeb a chefnogaeth nid yn unig staff Bouygues UK yma ym Mhentre Awel, ond hefyd ein hisgontractwyr a’n partneriaid cadwyn gyflenwi anhygoel a ddaeth gyda ni ar y daith sero net hon.”