Stori Martha
Ar ôl astudio am radd mewn Cyfryngau a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd am dair blynedd, ymunodd Martha â phrosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer fel Prentis Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata am ddwy flynedd. Mae ei rôl yn cynnwys helpu gyda’r cyfryngau cymdeithasol a marchnata ar gyfer y prosiect, sy’n cynnwys creu graffigwaith, datganiadau i’r wasg, trefnu a mynychu digwyddiadau, a diweddaru sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae Martha’n gobeithio, drwy’r cyfle prentisiaeth hwn, y bydd hi’n datblygu sgiliau hanfodol a phrofiadau gwych i ennill dealltwriaeth o’r sector marchnata a sut i greu ymgyrchoedd marchnata llwyddiannus ac effeithiol. Mae hi wedi dechrau cyflawni hyn drwy allu gweithio gydag ystod eang o bobl o fewn y diwydiant ac mewn sectorau cyflenwol eraill.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais am gyfle prentisiaeth i wneud hynny, ac ymchwilio i’r gwahanol sectorau sydd o ddiddordeb i chi cyn cyflwyno cais. Mae cynifer o brentisiaethau gwych o gwmpas sy’n eich galluogi i weithio’n uniongyrchol gyda phobl mewn sectorau sydd o ddiddordeb i chi, a byddwch chi’n derbyn profiad ymarferol wrth gael eich talu! Mae prentisiaeth yn ffordd wych o ymuno â’r gweithlu gan eich bod yn sicr o gael rhwydwaith cymorth da o’ch cwmpas a fydd yn dysgu popeth sydd angen i chi ei wybod i chi.”