Ym mis Mawrth 2024, cynhaliodd Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer gyfres o ddigwyddiadau agored i arddangos tai’r cynllun yng Nghastell-nedd Port Talbot yn llwyddiannus. Wedi’u hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a thrwy gydweithio â Tai Tarian ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd, cafodd dau dŷ o’r 1950au eu hôl-osod â thechnolegau Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer, gan gynnwys pwmp gwres, batri a phaneli solar.  

Wedi’u creu i gefnogi amcanion prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer, y diben oedd arddangos yr amrediad o ddatrysiadau ôl-osod sydd ar gael, gan helpu i greu cartref iach a fforddiadwy a chreu ‘landlordiaid y dyfodol’. Bu amrediad eang o randdeiliaid hefyd yn dysgu am osodwaith y tai arddangos, y gwersi a ddysgwyd a’r manteision.   

Yn ogystal â’r ddau dŷ gafodd eu hôl-osod, cafodd 41 o gartrefi ychwanegol Tai Tarian eu ffitio â systemau iOpt yn sgil yr arian. Synwyryddion monitro eiddo o bell nad ydynt yn ymyrryd yw’r rhain ar gyfer darparwyr tai cymdeithasol ac maent yn gallu mesur y defnydd o drydan yn ogystal â lefelau lleithder. Mae hyn yn galluogi Tai Tarian i ddod yn ‘landlordiaid y dyfodol’, lle maent yn derbyn data’n uniongyrchol i reoli’r eiddo a chefnogi’r tenantiaid.  

Ymhlith llwyddiannau’r prosiect oedd: 
 
•    370 o bobl o leiaf yn ymweld â’r tai yn ystod 24 o ddigwyddiadau, gan gynnwys trigolion lleol, gosodwyr, swyddogion y llywodraeth a’r sector cyhoeddus, a chynrychiolwyr 38 o gwmnïau gwahanol ledled y DU.
•    13 o ddarnau o seilwaith ynni carbon isel neu sero yn cael eu gosod, dros ddwbl y targed a osodwyd. 
•    43 o dai yn cael cymorth, gyda tharged disgwyliedig o bedwar. 

Dywedodd Craig Maybery-Thomas, Pennaeth Rheoli Asedau a Datgarboneiddio Tai Tarian:

 “Roedden ni wrth ein bodd o gael y cyfle i fynd i bartneriaeth gyda Chartrefi fel Gorsafoedd Pŵer ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd i arddangos darpariaeth cartrefi glanach, gwyrddach a mwy effeithlon o ran ynni.

Roedd cael y cyfle i groesawu ymwelwyr i’r eiddo, gan gynnwys tenantiaid, staff, addysgwyr, contractwyr, a chynrychiolwyr o’r llywodraeth, yn ychwanegu gwerth gwirioneddol. Fe wnaeth ganiatáu i bawb weld o brofiad uniongyrchol sut mae atebion ynni gwyrdd ynghyd â mesurau gwella ynni yn bosibl fel rhan o brosiect ôl-osod, gan rannu syniadau a meithrin cysylltiadau lleol cryf a fydd yn cefnogi cyflawni prosiectau ôl-osod llwyddiannus yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at ddysgu o’r profiad hwn a’i ddefnyddio i’n helpu i gynllunio’r gwaith o ôl-osod mwy o’n cartrefi yn effeithiol.”