Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn darparu ystod o gyfleoedd i fusnesau mawr a bach ar draws ystod o sectorau yn y rhanbarth. 

alt

Cyfleoedd Rhentu

Mae'r Fargen Ddinesig yn darparu seilwaith newydd i greu swyddi, twf yn y sector a chyfleoedd i fusnesau.

Mae cyfleoedd tenantiaeth, gan gynnwys swyddfeydd, gweithio ar y cyd, labordai a mannau gosod wedi'u creu ar draws llawer o'r prosiectau. 

alt

Cyfleoedd Cyflenwr

Mae rhanddeiliaid y Fargen Ddinesig am i fusnesau lleol elwa ar y buddsoddiad mawr ar draws y rhanbarth ac anogir Sefydliadau Cyflenwi Arweiniol i ddod o hyd i’r hyn maent ei angen mor lleol â phosibl wrth dendro am nwyddau neu wasanaethau.

Hyd yn hyn, gwariwyd dros £115 miliwn gyda busnesau Cymru. Bwriwch olwg ar y busnesau sydd wedi elwa ar y Fargen Ddinesig

alt

Digwyddiadau

Mae mynychu ac arddangos mewn digwyddiadau yn ffordd effeithiol o hyrwyddo'r Fargen Ddinesig ac o gefnogi gweithgareddau rhaglen a phrosiect.

Maent yn helpu i godi ymwybyddiaeth ar draws ystod o gynulleidfaoedd, yn rhoi cyfle i bobl gwrdd â thimau prosiect, ac yn caniatáu i'r tîm gwrdd â busnesau a chysylltiadau newydd, a helpu i adeiladu perthnasoedd presennol.

alt

Cyfleoedd Gwaith

O bryd i'w gilydd mae cyfleoedd yn codi i fod yn rhan o deulu’r Fargen Ddinesig trwy'r Sefydliadau Darparu Arweiniol ac o fewn y tîm canolog. 

Ar hyn o bryd does dim cyfleoedd gwaith ar gael yn y Fargen Ddinesig.