Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn darparu seilwaith newydd i greu swyddi, twf sector a chyfleoedd newydd i fusnesau.

Mae cyfleoedd tenantiaeth wedi’u darparu mewn llawer o gyfleusterau a ariennir gan y Fargen Ddinesig.

Gweler safleoedd unigol isod am fanylion cyswllt.

Pentre Awel

Dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, Canolfan Pentre Awel yw'r datblygiad cyntaf o'i fath a'i faint yng Nghymru a fydd yn cynnig darpariaeth o'r radd flaenaf ym maes ymchwil meddygol a gofal iechyd gan gefnogi pobl i fyw bywydau egnïol ac iach. 

Bydd gweithfannau hyblyg, Wi-Fi â chyflymder uchel, ystafelloedd cyfarfod a mynediad 24 awr, i gyd wedi'u hintegreiddio o gwmpas parcdir gwyrdd. Bydd cyfleusterau ar y safle hefyd gan gynnwys campfa a phwll nofio, parcio diogel, a chaffi.

BTC

Mae Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe yn adeilad hybrid 2,500 metr sgwâr ar Barc Ynni Baglan dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac yn rhan o'r rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel.

Mae'n darparu ystod o swyddfeydd a labordai hyblyg o ansawdd uchel, i gefnogi busnesau newydd a thwf busnes brodorol. Mae llawer o sylw yn cael ei roi i fusnesau yn y sectorau ynni, digidol a gwyddorau bywyd.

71/72 Kingsway

Bydd 71/72 Ffordd y Brenin, sy'n rhan o brosiect Dinas Abertawe a'r Glannau ac a arweinir gan Gyngor Abertawe, yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi mewn sectorau gan gynnwys technoleg a digidol.

Mae'r adeilad 104,000 troedfedd sgwâr, sydd â 7 llawr, yn cynnwys swyddfeydd a mannau gwaith a rennir, neuadd ddigwyddiadau a chaffi. Mae hefyd yn cynnwys teras gwyrdd ar y to, paneli solar, systemau adfer gwres, mannau cadw beiciau, mannau gwefru beiciau trydan a chyfleusterau cawod a newid helaeth.

Matrix

Mae'r Matrics Arloesi, sy'n rhan o brosiect Dinas Abertawe a'r Glannau yn adeilad o'r radd flaenaf ac eco-system sy'n canolbwyntio ar arloesi digidol, a weithredir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Ardal Arloesi SA1 Abertawe.

Mae'n cynnig cyfle unigryw i gysylltu â chymuned arloesi fywiog o fusnesau newydd, busnesau ac ymchwilwyr. Mae cyfleusterau blaengar yn adeiladau'r campws cyfagos, a chymorth technegol arbenigol.

hangar annexe

Mae Seilwaith Doc Penfro, dan arweiniad Porthladd Aberdaugleddau, yn rhan o brosiect Ardal Forol Doc Penfro ac yn ail-lunio seilwaith ffisegol Porthladd Penfro i sicrhau'r arbedion effeithlonrwydd gweithredol mwyaf posibl ar gyfer diwydiant y DU. 

Mae'r Sunderland Hangars  wedi bod yn rhan o'r dirwedd hanesyddol ers blynyddoedd lawer, ac erbyn hyn maent wedi cael eu hadnewyddu i ddarparu swyddfeydd a gweithdai newydd sbon.

Yr Egin

Mae Yr Egin, Canolfan S4C yn ganolfan ddigidol a chreadigol, dan arweiniad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ac wedi'i lleoli ar y campws yng Nghaerfyrddin.

Mae cyfle i weithwyr llawrydd neu fusnesau archebu desg dros dro yn y gofod cydweithio - naill ai am y dydd neu yn fwy rheolaidd.