Hygyrchedd
Rydym wedi llunio'r wefan hon gan ystyried anghenion hygyrchedd gwahanol a byddwn bob amser yn cynnal ei chynnwys i fodloni'r canllawiau hygyrchedd a nodir yn ein datganiad.
Datganiad hygyrchedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Bargen Ddinesig Bae Abertawe: bargenddinesigbaeabertawe.cymru
Datblygwyd y wefan hon gan Tinint ac fe'i rheolir gan dîm Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Ein dymuniad yw bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 300% heb golli'r testun ar ochrau'r sgrîn
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Datblygwyd y wefan hon i gydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.
Rhoi gwybod am faterion a cheisiadau am fformat arall
Os ydych chi'n teimlo y gallwn wella hygyrchedd y wefan hon mewn unrhyw ffordd, yna byddem yn gwerthfawrogi eich bod yn rhoi gwybod i ni drwy e-bost. Byddwn yn ymateb i bob ymholiad o fewn 10 diwrnod.
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, gallwch hefyd ofyn am hyn.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.
Gwybodaeth arall
Mae'r Fargen Ddinaseg Bae Abertawe wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Datblygwyd y wefan hon gan Tinint gan ddefnyddio fersiwn 13.1.1 o Umbraco i gydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.
Rydym yn mynnu bod unrhyw systemau trydydd parti newydd yr ydym yn eu comisiynu ar gyfer gwefan yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2. Nid oes gennym unrhyw systemau neu apiau trydydd parti sy'n gysylltiedig â'r wefan hon ar hyn o bryd.
Rydym yn monitro ein gwefan gan ddefnyddio Silktide ac yn defnyddio'r cwmni i nodi a thrwsio unrhyw faterion hygyrchedd. Rydym yn ymateb i'r holl adborth a byddwn yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion hygyrchedd a godir.
Paratowyd y datganiad hwn ar 30 Ionawr 2024.