Wrth i ni edrych yn ôl ar 2024, mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cymryd camau rhyfeddol, diolch i ymroddiad diwyro ein tîm a'n partneriaid.
Mae wedi bod yn flwyddyn wych o gynnydd i'r Rhaglen Seilwaith Digidol, sy'n cael ei chyflwyno ar draws y tair ffrwd waith: Gwledig, Lleoedd Cysylltiedig a Rhwydwaith Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf.
Ni fyddai'r cynnydd hwn wedi bod yn bosibl heb ein tîm gwych. Felly, hoffem ddiolch o galon i'n Hyrwyddwyr Digidol – rhan ganolog o'r rhaglen, sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol 2024 gyda'n cymunedau, gan sicrhau eu bod yn derbyn y wybodaeth a'r cymorth gorau posibl i gael gwell band eang.
Gall y byd telathrebu fod yn gymhleth ac yn heriol, ond drwy rannu ein gwerth craidd o roi anghenion pobl yn gyntaf gyda'n partneriaid a'n cyflenwyr, rydym wedi meithrin perthnasoedd gwaith sy'n cyflawni ar gyfer y cartrefi a'r busnesau yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.
Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda BT, Cornerstone, FreshWave, Netomnia, Ogi, Virgin Media O2, Openreach, Vodafone, Voneus, a WeFibre gyda chefnogaeth cynlluniau a mentrau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dyma rai o'r nifer o uchafbwyntiau rydym wedi'u clustnodi drwy gydol 2024:
- Llofnododd Cyngor Abertawe y Cytundeb Mynediad Agored cyntaf yn ein rhanbarth gyda Freshwave sy'n defnyddio celloedd bach mewn partneriaeth â Virgin Media O2
- Contractio Virgin Media O2 i adeiladu rhwydwaith ffeibr pwrpasol i safleoedd sector cyhoeddus strategol allweddol.
- Cynigiodd Richard Walters a Laura Jenkins, Rheolwyr Perthynas Cysylltedd Digidol, eu sylwadau yn Connected Britain 2024 drwy gynrychioli Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar ddau banel yn ystod y digwyddiad.
- Cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Chwalu Rhwystrau yn Connected Britain 2024.
- Cydweithio ar nifer o brosiectau Partneriaeth Gymunedol Ffeibr yn y rhanbarth.
- Cynnal ein digwyddiad cyntaf i drafod manteision 5G yn ogystal â mynd i'r afael â'r pryderon cyffredin yn ymwneud â'r dechnoleg.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
Mae'r cynnydd y mae'r Rhaglen Seilwaith Digidol wedi'i wneud drwy gydol 2024 wedi cadarnhau'r weledigaeth ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Bydd buddsoddi mewn seilwaith digidol nawr nid yn unig yn gwella ansawdd bywyd i gymunedau ond yn rhoi hwb i'r cyfleoedd economaidd ledled y rhanbarth. Rydym yn rhanbarth sy'n hyderus wrth groesawu busnesau newydd gan wybod bod gennym seilwaith sy'n addas at y dyfodol ar waith i ymdopi â'r amgylchiadau mwyaf heriol, sy'n golygu ein bod yn rhanbarth blaenllaw ar gyfer llawer o sectorau diwydiant.
Yn olaf, diolch i'n partneriaid, y mae eu cefnogaeth amhrisiadwy a'u goruchwyliaeth strategol wedi golygu bod y rhaglen yn parhau i gyd-fynd ag anghenion datblygol cymunedau a busnesau'r rhanbarth, a'r gwaith o'u trawsnewid yn ddigidol – Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Rydym yn sylweddoli mai cael gwell cysylltedd yw asgwrn cefn cynifer o agweddau ar gymdeithas. Wrth i ni edrych ymlaen at flwyddyn arall, mae ein tîm yn barod i barhau â'r cydweithrediadau a'r partneriaethau llwyddiannus sydd wedi gwneud Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn lle arloesol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
Mae ein gwefan newydd bellach yn fyw, lle gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd a'n newyddion diweddaraf. Gofynnir i chi gymryd ychydig funudau i ymweld â Rhaglen Seilwaith Digidol. Rydym yn croesawu eich adborth.