Mae cannoedd o weithwyr bellach yn gweithio yn natblygiad nodedig Abertawe, 71/72 Ffordd y Brenin, gan helpu i ddod â bywyd newydd, buddsoddiad a grym gwario i ganol y ddinas.
Mae wyth deg y cant o'r swyddfeydd yn y datblygiad bellach wedi'u gosod, gyda mwy na 350 o bobl eisoes yn gweithio yn yr adeilad. Disgwylir i'r ffigwr hwnnw godi i fwy na 500 wrth i fwy o denantiaid symud i'r adeilad.
Datblygwyd hen safle clwb nos Oceans gan Gyngor Abertawe a chafodd ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a Llywodraeth Cymru, ac mae bellach wedi'i drawsnewid yn ganolfan fusnes fodern sydd wedi'i chynllunio i ddenu a chadw cyflogwyr yn Abertawe.
Gall y safle ddarparu gweithleoedd ar gyfer hyd at 600 o weithwyr a disgwylir iddo gyfrannu £32.6m y flwyddyn at economi Abertawe pan fydd wedi'i feddiannu'n llawn.
Mae'r meddianwyr presennol yn cynnwys TUI, Futures First a Veeqo, sy'n eiddo i Amazon, ac mae'r darparwr mannau gweithio rhyngwladol IWG yn paratoi swyddfeydd hefyd. Cytunwyd ar brydles ar gyfer rhai o'r swyddfeydd sydd heb eu neilltuo hyd yn hyn hefyd.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Pan wnaethom ymrwymo i'r datblygiad hwn, ein nod oedd creu'r math o swyddfeydd o safon y mae eu hangen ar fusnesau modern wrth helpu i ddod â mwy o swyddi, buddsoddiad a gweithgarwch i ganol y ddinas.
"Mae'n wych gweld yr uchelgais honno'n cael ei gwireddu. Mae cannoedd o bobl eisoes yn gweithio o 71/72 Ffordd y Brenin a bydd y nifer honno'n parhau i dyfu wrth i fwy o denantiaid symud i'r adeilad.
"Ochr yn ochr â chynlluniau eraill sydd wedi'u cwblhau, rhai sydd ar y gweill neu rai sydd wedi'u cynllunio, mae 71/72 Ffordd y Brenin yn helpu i greu economi gryfach a mwy gwydn yng nghanol y ddinas am flynyddoedd i ddod."
Mae'r datblygiad yn rhan o raglen adfywio ehangach Abertawe, sy'n cynnwys amrywiaeth o brosiectau sydd â'r nod o greu swyddi, denu buddsoddiad a chynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas.