Cyrhaeddodd y ddinas y rhestr fer ar gyfer gwobr Dinas y Flwyddyn yng ngwobrau Estates Gazette 2022, sy'n dathlu cynlluniau adfywio a datblygu gorau'r wlad.
Collodd Abertawe o drwch blewyn i Birmingham - roedd dinasoedd eraill ar y rhestr fer yn cynnwys Newcastle a Chaerdydd.
Roedd cyrchfan Bae Copr £135m Abertawe, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe gyda RivingtonHark yn rheoli'r gwaith datblygu, ymysg y cynlluniau a arweiniodd at y ddinas yn cael cydnabyddiaeth.
Yn ogystal ag Arena Abertawe, mae'r cyrchfan - sy'n werth £17.1m y flwyddyn i'r ddinas - hefyd yn cynnwys parc arfordirol, y bont dros Oystermouth Road, fflatiau fforddiadwy, maes parcio a mannau newydd ar gyfer busnesau bwyd a diod lleol.
Roedd y gwobrau hefyd wedi cydnabod cynlluniau adfywio eraill yn Abertawe sydd wedi'u cwblhau, wedi'u cynllunio neu'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, wrth i'r gwaith gwerth £1bn i drawsnewid y ddinas ddatblygu'n gyflym.
Mae'r rhain yn cynnwys gwelliannau mawr gwerth miliynau o bunnoedd i olwg a naws Wind Street a Ffordd y Brenin.
Mae swyddfeydd uwch-dechnoleg newydd sy'n darparu lle ar gyfer 600 o swyddi yn y sectorau technoleg a digidol hefyd yn cael eu datblygu gan Gyngor Abertawe. Mae'r rhain yn cael eu hadeiladu'n awr ar hen safle clwb nos Oceana y ddinas.
Mae Arena Abertawe a'r swyddfeydd newydd wedi'u hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn.
Mae'r cynlluniau hyn yn ogystal ag eraill wedi helpu i ddenu'r sector preifat i fuddsoddi yn Abertawe. Mae hyn yn cynnwys y cyngor yn penodi'r arbenigwyr adfywio, Urban Splash i arwain y gwaith trawsnewid gwerth £750m ar sawl safle allweddol, gan gynnwys y Ganolfan Ddinesig ar lan y môr a safle datblygu Abertawe Ganolog yn ardal hen ganolfan siopa Dewi Sant.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r gwaith adfywio parhaus gwerth £1bn yn Abertawe yn trawsnewid ein dinas yn un o'r dinasoedd gorau oll yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi.
"Dan arweiniad y cyngor, rydym eisoes wedi cyflawni cymaint - gan gynnwys adeiladu ac agor Arena Abertawe a chyrchfan Bae Copr, a'r gwelliannau mawr a wnaed i ardaloedd allweddol fel Ffordd y Brenin a Wind Street er mwyn gwella'u hedrychiad.
"Ond nid yw'r gwaith hwn yn ymwneud â chyfleusterau newydd o safon ar gyfer ein preswylwyr a'n busnesau yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â chreu swyddi i bobl leol a chreu dinas y bydd y sector preifat yn buddsoddi ynddi. Mae hyn eisoes yn digwydd, ac mae llawer mwy wedi'i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sy'n dod.
"Mae cael ein henwi ymysg pedair dinas orau'r DU yn gymeradwyaeth fawr i'r gwaith rydym yn ei gyflawni ochr yn ochr â'r sector preifat yn Abertawe, a fydd yn helpu i godi proffil ein dinas ymhellach ledled y DU a thu hwnt."
Mae cynlluniau eraill sydd ar y gweill yn Abertawe'n cynnwys trawsnewid hen safle gwaith copr yr Hafod-Morfa, gyda thenantiaid y dyfodol yn cynnwys Penderyn - gwneuthurwr wisgi Cymreig enwog. Mae Theatr y Palace hanesyddol y ddinas yn cael ei hailddatblygu'n weithle modern i gwmnïau technoleg a chreadigol.
Mae cynllun 'adeilad byw' hefyd yn cael ei godi yng nghanol y ddinas dan arweiniad Hacer Developments. Bydd yr 'adeilad byw' sy'n cynnwys hen safle Woolworths ac adeiledd newydd 13 llawr cyfagos, yn cynnwys waliau gwyrdd a thoeon gwyrdd, cyfleuster addysgol, unedau manwerthu, swyddfeydd, iard dirluniedig, paneli solar ar y to, storfa fatris a gerddi. Bydd Pobl Group yn rheoli 50 o fflatiau fforddiadwy sy'n rhan o'r datblygiad.