Mae dros filiwn o bobl wedi ymweld ag Arena Swansea Building Society ers iddi agor yn 2022.
Mae'r garreg filltir yn amlygu rôl gynyddol y lleoliad fel cyrchfan ar gyfer adloniant byw, cynadleddau a digwyddiadau yn ne Cymru.
Mae'r arena, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a ariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn cael ei gweithredu gan ATG Entertainment ac mae'n rhan allweddol o gynllun adfywio Bae Copr sydd hefyd yn cynnwys Parc Amy Dilwyn a'r bont dros Oystermouth Road.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae croesawu miliwn o ymwelwyr mewn ychydig o flynyddoedd yn unig yn garreg filltir wych ar gyfer Arena Swansea Building Society.
"Mae'r lleoliad wedi sefydlu ei hun fel un o'r asedau diwylliannol ac economaidd pwysicaf yn y ddinas, gan ddenu cynulleidfaoedd o bob rhan o Gymru a thu hwnt.
"Yn ogystal â dod ag adloniant i Abertawe, mae'r arena hefyd yn chwarae rôl allweddol mewn cefnogi cynadleddau, arddangosfeydd, seremonïau graddio a digwyddiadau cymunedol, gan helpu i roi hwb i nifer yr ymwelwyr a gweithgarwch yn ardal Bae Copr.
"Mae'r llwyddiant hwn yn dangos pa mor bwysig yw'r arena i adfywiad parhaus Abertawe a'i henw da cynyddol fel cyrchfan bywiog ar gyfer diwylliant a digwyddiadau."
Meddai Matt Blackhouse, Cyfarwyddwr Lleoliad yn Arena Swansea Building Society, "Mae croesawu miliwn o ymwelwyr yn gamp enfawr ar gyfer yr arena sy'n adlewyrchu'r amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yma ers iddi agor.
"Rydym wedi croesawu cynulleidfaoedd ar gyfer digwyddiadau cerddoriaeth fyw, comedi, theatr, cynadleddau, gwleddoedd a seremonïau graddio, yn ogystal â gweithgareddau dysgu creadigol a digwyddiadau cymunedol.
"Gyda rhaglen gyffrous o sioeau a digwyddiadau yn yr arfaeth ar gyfer y misoedd nesaf a dechrau'r flwyddyn nesaf, rydym yn edrych ymlaen at groesawu llawer yn rhagor o ymwelwyr drwy ein drysau."
Mae uchafbwyntiau diweddar yn yr arena wedi cynnwys perfformiadau gan The Manic Street Preachers, Bob Dylan a Wet Wet Wet, comedi gan John Bishop a chynyrchiadau teithiol mawr fel Riverdance, Sunny Afternoon a Mamma Mia!
Mae'r rhaglen yn parhau gyda digwyddiadau cerddoriaeth, theatr a chomedi mawr wedi'u trefnu drwy gydol 2026 a thu hwnt, gan gynnwys perfformiadau gan 10cc, y digrifwr Russell Howard ac Ocean Colour Scene.
Darllewnch mwy