Bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol, yn rhyddhau'r cyllid i'r portffolio buddsoddi yn ystod yr wythnosau nesaf
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r gwaith o gyflwyno naw rhaglen a phrosiect mawr yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Gyda’i gilydd, mae'r rhaglenni a'r prosiectau hyn werth dros 9,000 o swyddi.
Disgwylir i bortffolio buddsoddi'r Fargen Ddinesig o hyd at £1.3 biliwn hefyd roi hwb a fydd o leiaf £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol, gan helpu i ddenu buddsoddiad pellach a chodi proffil y Dinas-ranbarth fel canolfan ragoriaeth i sectorau gan gynnwys gwyddorau bywyd, cyflymu'r economi, gweithgynhyrchu clyfar ac ynni di-garbon.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae’r newyddion hwn am ryddhau cyllid yn dangos y cynnydd sylweddol y mae'r Fargen Ddinesig yn ei wneud, ac mae disgwyl y bydd y buddsoddiad yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgais i adfer economi'r Dinas-ranbarth yn sgil Covid-19.
“Ymhlith y prosiectau yn Sir Gaerfyrddin y mae prosiect hynod gyffrous Pentre Awel yn Llanelli a arweinir gan y Cyngor ac sydd bellach wedi’i gyflwyno i'w gymeradwyo'n derfynol gan y ddwy lywodraeth, ynghyd â Hwb creadigol a digidol Yr Egin yng Nghaerfyrddin a arweinir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
“Rydym hefyd yn arwain ar raglen seilwaith digidol rhanbarthol a fydd yn hybu cysylltedd, gan roi'r sylfeini ar waith i alluogi'r rhanbarth i elwa ar arloesi digidol yn y dyfodol. Yn ogystal â menter Sgiliau a Thalentau a fydd yn cynnig cyfleoedd i bobl ranbarthol gael mynediad i’r swyddi sy’n cael eu creu, bydd y prosiectau hyn yn cyfuno ag eraill er budd ein preswylwyr a'n busnesau.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot enw da am gynhyrchu ynni adnewyddadwy rhagorol, felly bydd ein rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel sydd i'w hariannu’n rhannol gan y Fargen Ddinesig yn adeiladu ar y gwaith hwn trwy ddatgarboneiddio Castell-nedd Port Talbot a'r Dinas-Ranbarth ymhellach, wrth greu mannau newydd i gefnogi busnesau newydd a busnesau brodorol yn y sectorau arloesi a gweithgynhyrchu.
“Rydym hefyd yn arwain ar brosiect rhanbarthol sy'n dwyn yr enw Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer a fydd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a rhoi hwb i’r amgylchedd trwy ôl-ffitio ac adeiladu miloedd o gartrefi newydd â thechnoleg effeithlonrwydd ynni.
“Bydd buddsoddiad y Fargen Ddinesig yn ychwanegu at bopeth arall yr ydym yn ei adfywio yn ardal Castell-nedd Port Talbot.”
Dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: “Bydd prosiect Ardal Forol Doc Penfro, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan y Fargen Ddinesig - sydd eisoes wedi'i gymeradwyo gan y llywodraeth - yn adeiladu ar glwstwr ynni morol rhagorol yn Noc Penfro i drawsnewid Sir Benfro yn enghraifft fyd-eang o'r arferion gorau ar gyfer arloesedd ynni morol. Mae ynni fel hwn yn hanfodol fel rhan o ymgyrch barhaus i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, a bydd y prosiect hefyd yn creu swyddi i bobl leol.
“Bydd Sir Benfro hefyd yn elwa ar dri phrosiect rhanbarthol o dan y Fargen Ddinesig, felly rydym yn croesawu'r newyddion ynglŷn â'r cyllid diweddaraf hwn sydd i’w ryddhau wrth i’r Cyngor barhau i weithio gyda llawer o bartneriaid i sicrhau bod ein heconomi mewn sefyllfa dda i adfer ar ôl Covid-19.”
Ymhlith prosiectau eraill y Fargen Ddinesig y mae prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau a arweinir gan Gyngor Abertawe, a'r prosiect Campysau Gwyddorau Bywyd, Llesiant a Chwaraeon a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.