Ymwelodd Mr Davies â'r safle 83 erw yn Llynnoedd Delta i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect arloesol dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi cael £40 miliwn o gyllid fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Pentre Awel yw’r datblygiad cyntaf o'i gwmpas a'i faint yng Nghymru a bydd yn dwyn ynghyd ddatblygiadau arloesol ym maes gwyddor bywyd, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern mewn un lleoliad gwych.

Bydd yn darparu gofal iechyd ac ymchwil feddygol o'r radd flaenaf ac yn cefnogi ac yn annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach, gan greu dros 1,800 o swyddi a rhoi hwb o £467 miliwn i'r economi leol yn ystod y 15 mlynedd nesaf.

Mae Pentre Awel yn un o naw prosiect mawr sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Cafodd yr achos busnes ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni a bydd y gwaith o adeiladu Parth Un y prosiect yn dechrau yr hydref hwn ac amcangyfrifir y bydd yn cael ei gwblhau yn haf 2024.

Mae'n cynnwys canolfan hamdden newydd o'r radd flaenaf a phwll hydrotherapi ynghyd â lle addysg, ymchwil a datblygu busnes; canolfan ymchwil a darpariaeth glinigol; a chanolfan sgiliau llesiant. Y tu allan, bydd gan ddatblygiad Pentre Awel fannau cyhoeddus awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer hamdden, cerdded a beicio.

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru: “Roeddwn yn falch iawn o weld dechrau'r prosiect cyffrous hwn a llongyfarch rhai o'r bobl sydd wedi gweithio mor galed arno.

“Mae Llywodraeth y DU yn falch o'n cyfraniad ariannol a fydd, ynghyd â'n partneriaid, yn helpu i gyflawni'r cynllun hynod uchelgeisiol hwn. Mae ganddo'r potensial i drawsnewid bywydau drwy greu datblygiadau arloesol ym maes iechyd a llesiant, yn ogystal â rhoi hwb economaidd i'r ardal. Dyma godi'r gwastad ar waith."

Mae Pentre Awel yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, prifysgolion a cholegau gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae Pentre Awel yn un o'r cynlluniau adfywio mwyaf o'i fath yng Nghymru a bydd yn darparu rhaglen sylweddol o fuddion cymunedol ac adfywio economaidd ar draws y sir.

“Yn ogystal â dod â llawer o swyddi a chyfleoedd hyfforddiant i'r ardal, bydd yn darparu cyfleusterau iechyd a hamdden o'r radd flaenaf i bobl leol. Mae'n brosiect gwirioneddol drawsnewidiol, a bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.”

Mae Bouygues UK wedi'i benodi i ddylunio ac adeiladu Parth Un yn dilyn proses dendro helaeth drwy Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru. Mae gan y contract ffocws allweddol ar werth cymdeithasol er mwyn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant sylweddol ar gyfer pobl leol yn ystod y cam adeiladu.

Dywedodd Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Bouygues UK ym Mhentre Awel: “Roedd yn wych croesawu Mr Davies i safle Pentre Awel a thrafod ein cynlluniau ar gyfer adeiladu'r datblygiad a sut byddwn ni'n cydweithio'n agos â'r gymuned leol, yn ogystal â Chyngor Sir Caerfyrddin, i greu cynifer o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant â phosibl i bobl yn y rhanbarth.

“Roedd ein digwyddiad cwrdd â'r prynwr cyntaf yn llwyddiant ysgubol ac rydym eisoes wedi siarad â llawer o gyflenwyr ac isgontractwyr lleol ynglŷn â sut allen nhw weithio gyda ni ym Mhentre Awel. Rydym bellach yn edrych ymlaen at ddechrau'r gwaith sylfeini ac yna bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu, gan weithio mewn partneriaeth â chynifer o fusnesau lleol â phosibl.”

Mae camau diweddarach y cynllun yn cynnwys gwesty, amrywiaeth o dai cymdeithasol a fforddiadwy, llety byw â chymorth a chartref nyrsio.

Mae Pentre Awel yn un o nifer o brosiectau sy'n cael eu cyflawni fel rhan o gynlluniau ehangach y cyngor i adfywio Llanelli. Mae'r prosiect Trawsnewid Tyisha, a arweinir gan dai, yn cynnig cyswllt hanfodol rhwng Pentre Awel a chanol tref Llanelli, ac mae miliynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi ym mhob rhan o'r ardal i greu cymuned leol ffyniannus a mwy gwydn ac i wella golwg canol y dref i ddenu mwy o ddiddordeb masnachol ac ymwelwyr.

 

image