Busnes gweithgynhyrchu a pheirianneg sy'n tyfu o Gymru yw'r cwmni diweddaraf i fuddsoddi mewn cyfleusterau a gefnogir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ym Mhorthladd Penfro.

Mae hwn yn ddangos ymhellach rôl prosiect Ardal Forol Doc Penfro wrth hyrwyddo twf busnes, denu buddsoddiad gan y sector preifat a chefnogi cyfleoedd cyflogaeth fedrus ledled y rhanbarth.

Mae Berkeley Coachworks Ltd, rhan o Berkeley Group, wedi symud i Falcon House, un o Randai’r Awyrendai hanesyddol ym Mhorthladd Penfro, i gefnogi cam nesaf ei gynlluniau ehangu. Mae hyn yn tynnu sylw at y galw cynyddol am yr adeiladau masnachol o ansawdd uchel a grëwyd drwy brosiect Ardal Forol Doc Penfro a ariennir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n trawsnewid seilwaith hanesyddol yn gyfleusterau modern ar gyfer busnesau morol, peirianneg a gweithgynhyrchu.

Mae Falcon House yn un o bedwar rhandy awyrendai’r Awyrlu Brenhinol gynt, sef adeiladau rhestredig Gradd II sydd wedi'u hadnewyddu'n ofalus drwy brosiect Ardal Forol Doc Penfro. Mae'r gwaith adnewyddu wedi creu gweithle modern a hyblyg sy'n cyfuno treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Doc Penfro ag anghenion busnesau uchelgeisiol sy'n tyfu.

Dywedodd Sarah Pearce, Prif Swyddog Gweithredu Berkeley Group:

"Mae symud i Ddoc Penfro yn nodi pennod newydd gyffrous i Berkeley Coachworks. Bydd y cyfleusterau estynedig yn cefnogi twf parhaus ein busnes ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd yn y gymuned leol. Rydyn ni’n falch o fod yn buddsoddi yn Sir Benfro, cyfrannu at yr economi leol a helpu i ddatblygu swyddi crefftus yn y rhanbarth."

Dywedodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

"Gweld Falcon House yn cael ei ddefnyddio yw’r union fath o ganlyniad yr oedd prosiect Ardal Forol Doc Penfro wedi'i gynllunio i'w gyflawni. Drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau o ansawdd uchel a defnyddio asedau hanesyddol at ddibenion masnachol cynhyrchiol unwaith eto, rydyn ni’n creu amgylchedd lle gall busnesau fuddsoddi, tyfu a chreu cyfleoedd cyflogaeth fedrus. Mae penderfyniad Berkeley Group i symud i Borthladd Penfro yn dangos yn gryf y cyfleusterau sydd ar gael a'r cyfle economaidd ehangach sy'n cael ei greu drwy'r prosiect."

Dywedodd Sharon Jenkins, Swyddog Gweithredol Eiddo Masnachol ym Mhorthladd Penfro:

"Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Berkeley Group i Falcon House ac ystad ehangach Porthladd Penfro. Mae eu penderfyniad i symud yma yn dangos gwerth y buddsoddiad a wnaed drwy brosiect Ardal Forol Doc Penfro a’r enw da mae Porthladd Penfro yn ei feithrin fel cyrchfan i fusnesau peirianneg a gweithgynhyrchu uchelgeisiol. Mae pob busnes newydd sy'n symud i’r cyfleusterau hyn yn cryfhau safle Porthladd Penfro fel canolfan o arwyddocâd cenedlaethol ar gyfer diwydiannau morol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch, gan helpu i greu cyfleoedd economaidd cynaliadwy i Sir Benfro ac ardal ehangach Dinas-ranbarth Bae Abertawe."

Mae gweld Falcon House yn cael ei ddefnyddio yn garreg filltir gadarnhaol arall i brosiect Ardal Forol Doc Penfro, gan arddangos sut mae buddsoddiad Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn helpu i ddefnyddio adeiladau hanesyddol at ddibenion cynhyrchiol unwaith eto, denu busnesau sy'n tyfu a chefnogi twf economaidd hirdymor ledled y rhanbarth.