Mae'r prif gontractwr Bouygues UK, sy'n adeiladu Parth 1 o ddatblygiad Pentre Awel yn Llanelli, syn ran o Fargen Ddinesig Bae Abertawes, wedi gweithio gydag is-gontractwyr a'i gadwyn gyflenwi yn ystod y gwaith adeiladu sy’n para 24 mis i gyflawni sero net ar y prosiect adeiladu.
Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o fwy na 90% ar allyriadau uniongyrchol o'r holl danwydd ar y safle, yn ogystal â gostyngiad o 10% mewn cynhyrchu gwastraff, a’r defnydd o ynni a dŵr. Ers dechrau'r prosiect, mae dros 450 tunnell o allyriadau carbon wedi cael eu harbed diolch i'r fenter hon.
Mae’r prosiect wedi cyrraedd y garreg filltir ganolog hon o fod yn sero net o ganlyniad i roi mentrau ynni, gwastraff ac arbed adnoddau ar waith, gan gynnwys mabwysiadu olew llysiau wedi’i hydrodrin (HVO) sydd wedi'i ardystio'n gynaliadwy fel tanwydd, yn ogystal â defnyddio deunyddiau gwyrdd a rhai sydd wedi’u hailgylchu.
Oherwydd y gostyngiad mewn allyriadau yn sgil defnyddio HVO ym Mhentre Awel, mae Bouygues UK wedi ymrwymo i ddefnyddio HVO i bweru ei holl safleoedd adeiladu ledled y DU. Mae’r tanwydd HVO a gafaelwyd ganddo wedi cael ardystiad ISCC oherwydd ei gadwyn gyflenwi y gellir ei olrhain nad yw’n cynnwys datgoedwigo. Mae'r partneriaid yn cynnwys Green4Wales, Watson Fuels, New Era a CSS.
Mae tîm prosiect Canolfan Pentre Awel wedi gweithio'n ddiflino yn ystod eu cyfnod dwy flynedd bron ar y safle, i roi lleihau carbon wrth wraidd y datblygiad. Mae wedi targedu 24 o fentrau penodol i helpu i leihau allyriadau, gwastraff ac ynni ar y prosiect.
Yng nghamau cynnar y datblygiad, gosodwyd swyddfeydd y safle a chabanau sy’n defnyddio ynni’r haul ar y safle, a phan nad oedd yr haul yn eu pweru, roedd yr adeiladau hynny'n defnyddio generadur pŵer HVO. Roedd camerâu cylch cyfyng y safle hefyd yn cael eu pweru gan ynni’r haul. Cymaint oedd llwyddiant y generadur HVO, fel y cafodd y safle cyfan ei drawsnewid i HVO yng nghamau cynnar y prosiect.
Mae mentrau eraill megis gweithio'n agos gyda'i gadwyn gyflenwi i ddod o hyd i ddeunyddiau adeiladu wedi'u hailgylchu hefyd wedi cyfrannu at daith sero net ehangach y prosiect. Mae deunyddiau o'r fath yn cynnwys defnyddio bariau wedi'u hatgyfnerthu ar gyfer sylfeini'r adeiladau sy'n cynnwys 98% o gynnwys wedi’i ailgylchu, tra bod y dur strwythurol yn cynnwys 80% o gynnwys wedi'i ailgylchu.
Wrth gloddio i osod y sylfeini, aethpwyd â phridd o wyneb y safle hefyd i gyfleuster ailgylchu lleol lle cafodd y deunydd ei wahanu, ei drin a'i ailddefnyddio - gan leihau faint o wastraff a oedd yn mynd i safleoedd tirlenwi.
Mae'r tîm wedi creu partneriaeth gyda Gaia, cwmni o Sir Gaerfyrddin sy'n helpu i nodi, monitro a lleihau'r defnydd o bŵer, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac ystod o synwyryddion. Hyd yma, gwnaed arbedion ynni o 47.9% o ganlyniad i ddefnyddio Gaia. Mae'r prosiect hefyd yn cael budd ymgynghorydd carbon sy'n rhoi cyngor ar nodi atebion carbon isel drwy gydol y cyfnod adeiladu ac yn monitro carbon, gwastraff a danfoniadau, yn ogystal ag uwchsgilio'r gweithlu ar bynciau yn ymwneud â’r hinsawdd a’r amgylchedd.
Mae Canolfan Pentre Awel yn ddatblygiad arloesol sy’n werth miliynau o bunnoedd a fydd yn dod ag arloesi ym maes gwyddor bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern ynghyd ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli.
Meddai Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Pentre Awel, am gyflawni sero net "Rydym yn hynod falch o'r cyflawniad hwn. Yn ogystal ag adeiladu cyfleuster arloesol o'r radd flaenaf, fel tîm prosiect, gwnaethom osod ein bryd ar leihau cynifer o'n hallyriadau carbon â phosib. Gwnaethom lunio cynllun ac rwyf mor falch o ddweud ein bod wedi ei gyflawni.
"Ni fyddai hyn wedi digwydd oni bai am benderfyniad a chefnogaeth nid yn unig staff Bouygues UK yma ym Mhentre Awel, ond hefyd ein his-gontractwyr anhygoel a'n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi a ddaeth gyda ni ar y daith sero net hon.
Meddai Phillipe Bernard, Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Bouygues UK "Rwy'n canmol ymdrechion tîm y prosiect i leihau allyriadau carbon yn sylweddol ym mhrosiect Pentre Awel. Mae hyn yn dangos bod cyflawni adeiladu cynaliadwy yn bosib.
Rydym yn falch iawn, oherwydd y llwyddiant a gyflawnwyd gyda'r defnydd o HVO ym Mhentre Awel, ein bod bellach yn mandadu'r defnydd o HVO sydd wedi'i ardystio'n gynaliadwy ym mhob un o'n safleoedd ledled y DU."
Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Hazel Evans "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo'n ddwfn i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ac rydym yn cydnabod ein bod yn gyfrifol am leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ein hunain ac annog trigolion Sir Gaerfyrddin i fod yn ymwybodol o'u hôl troed carbon eu hunain. Mae'n galonogol gweld bod y datblygiad hwn gan y Cyngor yn mynd i'r afael ag allyriadau carbon yn uniongyrchol ac yn arwain drwy osod esiampl ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol i flaenoriaethu ein hamgylchedd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r tîm yn Bouygues UK am eu hymrwymiad wrth i ni gyrraedd y garreg filltir aruthrol hon."