Mae Arena Swansea Building Society wedi derbyn dros 912,000 o ymweliadau ers iddi agor am y tro cyntaf yn 2022.
Mae'r atyniad a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a ariannwyd yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei gynnal gan gwmni ATG Entertainment.
Mae'n cynnal digwyddiadau â thocynnau, yn ogystal â chynadleddau, gwleddoedd, seremonïau graddio a gweithgareddau dysgu creadigol.
Mae rhai o uchafbwyntiau 2025 yn yr arena wedi cynnwys y Manic Street Preachers, Wet Wet Wet, An Evening with the Fast Show a Sunny Afternoon - sioe gerdd sy'n adrodd hanes bywyd The Kinks.
Mae'r ffigurau'n dangos bod yr arena wedi derbyn dros 245,000 o ymweliadau hyd yn hyn eleni.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae Arena Swansea Building Society wedi sefydlu ei hun fel un o asedau diwylliannol ac economaidd mwyaf arwyddocaol y ddinas.
"Ers iddi agor, mae'r arena wedi chwarae rhan hanfodol wrth drawsnewid ardal Bae Copr yn gyrchfan bywiog, gan ddenu cynulleidfaoedd o bob rhan o Gymru a thu hwnt.
"Mae'r arena wedi cryfhau enw da Abertawe fel hafan i gerddorion, digrifwyr a chynyrchiadau teithiol mawr, gan hefyd ddarparu llwyfan i artistiaid lleol, digwyddiadau cymunedol a thalentau newydd.
"Rydym yn hynod falch o'r hyn y mae'r arena wedi'i gyflawni mewn cyfnod mor fyr, ac edrychwn ymlaen at gynnal y momentwm hwn wrth i Abertawe barhau i dyfu fel hwb diwylliannol ffyniannus."
Mae rhai o'r perfformiadau a gynhelir yn Arena Swansea Building Society y flwyddyn nesaf yn cynnwys band y Kaiser Chiefs, 10cc a The Rock Orchestra.
Mae'r perfformiadau eraill yn cynnwys UB40, Strictly Come Dancing: The Professionals a sioe When Gavin Met Stacey, lle bydd James Corden a Ruth Jones yn camu i'r llwyfan i drafod eiliadau cofiadwy a chyfrinachau y tu ôl i'r llenni o Ynys y Barri i Billericay.
Meddai Matt Blackhouse, Cyfarwyddwr Lleoliad Arena Swansea Building Society, "Ers ymuno â thîm yr arena ym mis Mehefin eleni, mae wedi bod yn wych gweld yr amrywiaeth o sioeau a digwyddiadau rydym wedi'u cynnal yn y lleoliad, o dair noson lle gwerthwyd pob tocyn ar gyfer perfformiadau gan Bob Dylan, un o enwogion byd cerddoriaeth, i gynadleddau dros sawl diwrnod a gwleddoedd ar gyfer mwy na 600 o bobl.
"Gyda llawer o actau a sioeau eraill sydd heb eu cyhoeddi eto drwy gydol 2026 a'r tu hwnt, rydym yn edrych ymlaen at barhau i gyflwyno adloniant o'r radd flaenaf yn yr ardal, ac i sicrhau bod Abertawe wrth wraidd teithiau a digwyddiadau."
Mwy o wybodaeth www.swansea-arena.co.uk