Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl ar gyfer mynediad, ymddangosiad, tirlunio, cynllun a graddfa ar gyfer Parth Un o'r prosiect nodedig.

Mae'n dilyn y cais cynllunio amlinellol, a gymeradwywyd yn ôl ym mis Awst 2019, ac mae'n golygu y gall gwaith ddechrau'n swyddogol ar y safle.

Pentre Awel yw'r datblygiad cyntaf o'i gwmpas a'i faint yng Nghymru a fydd yn cynnig darpariaeth o'r radd flaenaf ym maes ymchwil meddygol a gofal iechyd gan gefnogi ac annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach.

Mae gwaith dylunio manwl wedi'i wneud ar Barth Un, a fydd yn dwyn ynghyd addysg, busnes, ymchwil, hamdden ac iechyd mewn un adeilad. Bydd y cyfleusterau hyn yn cael eu huno mewn cynllun 'stryd', a gysylltir gan atriwm canolog a fydd yn cynnwys derbynfa, caffi ac amwynderau cyhoeddus eraill. Y stryd fydd calon gymunedol y pentref a bydd ganddi lawer o fannau arddangos tuag at mannau bach a fydd yn galluogi pobl i fwynhau'r golygfeydd gwych o'r llyn a thuag at aber Afon Llwchwr a Bae Caerfyrddin.

Mae'r dyluniadau'n arddangos uchelgais y Cyngor i greu datblygiad sy'n cael ei arwain gan y dirwedd, sy'n gysylltiedig â chymunedau ac amwynderau lleol ac sy'n gynaliadwy. Bydd cyfleusterau yn gwneud y defnydd gorau posibl o olau dydd ac awyru naturiol lle bo hynny'n bosibl, ac yn 'dod â'r tu allan i mewn' i hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol da.

Y tu allan, bydd Pentre Awel yn cynnwys mannau cyhoeddus awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer hamdden, gyda llwybrau cerdded a beicio a golygfeydd godidog o'r arfordir, o amgylch y llyn dŵr croyw fel nodwedd ddiffiniol allweddol.

Mae gwaith clirio'r safle, ymchwilio'r tir a gwaith ecoleg eisoes wedi dechrau ar y safle a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau'r hydref hwn ac amcangyfrifir y bydd wedi'i gwblhau'n llawn ar gyfer haf 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae hwn yn gam cyffrous arall ymlaen ar gyfer y prosiect uchelgeisiol ac arloesol hwn a fydd o fudd i bobl yn lleol yn Llanelli, yn ogystal ag ar draws Sir Gaerfyrddin a De-orllewin Cymru yn gyffredinol.

“Bydd Pentre Awel yn darparu rhaglen sylweddol o fanteision cymunedol ac adfywio economaidd ar draws y sir, gan greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant mawr, ynghyd â chyfleusterau hamdden ac iechyd o'r radd flaenaf i'n preswylwyr.

“Mae'n bwysig bod busnesau lleol yn elwa o'r prosiect hwn, ac roeddwn wrth fy modd bod dros 100 o fusnesau wedi mynd i ddigwyddiad 'Cwrdd â'r Prynwr' ym Mharc y Scarlets yn ddiweddar i ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael.Rwy'n edrych ymlaen at weld gwaith adeiladu yn dechrau ar y safle yn fuan iawn.”

Mae Pentre Awel yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, prifysgolion a cholegau gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe. Mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn).

Yn ogystal â gwella iechyd a llesiant, bydd y prosiect yn creu dros 1,800 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi/prentisiaethau, a disgwylir iddo roi hwb o £467 miliwn i'r economi leol dros y 15 mlynedd nesaf.

Dyfarnwyd contract dylunio ac adeiladu dau gam i Bouygues UK ar gyfer Parth Un gyda ffocws allweddol ar werth cymdeithasol i sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol yn cael eu defnyddio i'r eithaf yn ystod y cyfnod adeiladu.

Mae Parth Un yn cynnwys canolfan hamdden newydd o'r radd flaenaf; pwll hydrotherapi; gofod addysg, ymchwil a datblygu busnes; canolfan ymchwil a darpariaeth glinigol gyda threialon clinigol ar lefel gymunedol; a chanolfan sgiliau llesiant sy'n darparu hyfforddiant iechyd a gofal.

Mae camau diweddarach y cynllun yn cynnwys gwesty, amrywiaeth o dai cymdeithasol a fforddiadwy, llety byw â chymorth a chartref nyrsio. 

image