Cyn hir, gallai cannoedd o filoedd o bobl sy'n teithio ar drenau a bysiau bob blwyddyn elwa ar gynlluniau mawr i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ledled de-orllewin Cymru.

Bydd is-bwyllgor trafnidiaeth rhanbarthol yn cael ei greu i ddatblygu cynigion ar gyfer cam cyntaf prosiect Metro Bae Abertawe a fyddai'n cynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Nod y prosiect yw cysylltu cymunedau ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn well drwy drafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â datblygu cysylltiadau gwell ar gyfer rheilffyrdd a bysiau â rhannau eraill o'r DU.

Cynllunnir gwasanaethu mwy rheolaidd mewn gorsafoedd fel rhan o gynnig a fyddai hefyd yn helpu'r rhanbarth i leihau ei allyriadau carbon drwy leihau dibyniaeth ar geir.

Bydd y cynnig yn cefnogi ac yn adeiladu ar waith sydd eisoes yn cael ei wneud i ddatblygu cynlluniau ar gyfer system Metro Bae Abertawe.

Mae hyn yn cynnwys gwaith yr Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gomisiynu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cysylltedd rheilffyrdd gwell yn ne-orllewin Cymru.

Mae hefyd yn cynnwys astudiaethau sy'n cael eu cynnal gan Drafnidiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol rhanbarthol, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu meysydd eraill o drafnidiaeth gyhoeddus i gefnogi gwelliannau i'r gwasanaeth rheilffyrdd.

Tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, bydd cyllid ar gyfer yr is-bwyllgor trafnidiaeth rhanbarthol yn dod o Lywodraeth Cymru fel rhan o adolygiad strategol o systemau trafnidiaeth rhanbarthol.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe: "Nid yw Metro Bae Abertawe yn brosiect y Fargen Ddinesig eto, ond byddwn yn croesawu ei gynnwys yn y dyfodol gan fod trafnidiaeth wedi'i nodi fel maes allweddol i'w wella yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.

"Mae'r gwelliannau hyn yn hanfodol i helpu i roi hwb i'n heconomi ranbarthol, denu buddsoddiad a chreu swyddi drwy wella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhwng ein cymunedau a datblygu cysylltiadau gwell â dinasoedd fel Caerdydd, Bryste a Llundain.

"Gan adeiladu ar y gwaith gwych sydd wedi'i wneud hyd yn hyn a gweithio'n agos mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, bydd yr is-bwyllgor trafnidiaeth rhanbarthol cyn hir yn archwilio ffyrdd o wella amlder ac effeithlonrwydd y gwasanaethau rheilffyrdd rhanbarthol sy'n diwallu anghenion pob rhan o dde-orllewin Cymru, yn ogystal â gweithredu cynlluniau i wella gwasanaethau bysiau a gwella cyfleusterau i bobl gerdded neu feicio i'r gwaith.

"Gan gefnogi datblygiadau mawr yn sgil Bargen Ddinesig Bae Abertawe sydd werth £1.3 biliwn, byddai rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig Metro Bae Abertawe hefyd yn helpu'r rhanbarth i gyflawni ei ddyletswyddau o ran newid yn yr hinsawdd drwy annog llai o deithiau mewn car."

Bydd cynigion Metro Bae Abertawe yn helpu'r rhanbarth i fanteisio ar gynllun gorsaf rheilffordd Parcffordd Gorllewin Cymru ar gyfer Felindre a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru Llywodraeth y DU.

"Mae gwelliannau o'r math hwn yn cael eu croesawu mewn egwyddor, ond mae'n rhaid iddynt fod yn rhan o'r ateb i drafnidiaeth gyhoeddus ranbarthol," dywedodd y Cynghorydd Stewart.

"Mae hefyd yn hanfodol na fydd y cynnig hwn yn effeithio ar amlder y gwasanaethau i orsafoedd megis Abertawe a Chastell-nedd."

Bydd cylch gwaith ar gyfer yr is-bwyllgor trafnidiaeth rhanbarthol bellach yn cael ei ddatblygu er mwyn i'r Cyd-bwyllgor ei gymeradwyo'r mis nesaf. Bydd y grŵp yn cynnwys aelodau'r cabinet dros drafnidiaeth o bob un o bedwar awdurdod lleol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gyda chefnogaeth gan uwch-swyddogion trafnidiaeth.

Disgwylir i gynnig ar gyfer cam cyntaf Metro Bae Abertawe gael ei gyflwyno erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf i Lywodraeth Cymru ei ystyried.