Mae Canolfan Pentre Awel, y datblygiad nodedig yn Llanelli sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn agor ei drysau i'r cyhoedd ar 15 Hydref 2025.
Mae'r datblygiad hyn sy'n rhan o bortffolio o prosiectau y Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yr un cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'n dod â'r sector preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector at ei gilydd o dan yr un to, gyda'r nod o wella iechyd a llesiant, rhoi hwb i'r economi a chefnogi pobl ar bob cam o fywyd.
Er y bydd drysau Canolfan Pentre Awel (Parth 1 gynt) yn agor i'r cyhoedd o 4pm Dydd Mercher 15 Hydref, bydd digwyddiad swyddogol i agor Canolfan Pentre Awel yn cael ei gynnal tua diwedd y flwyddyn, gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, rhanddeiliaid a'r gymuned ehangach
Bydd Canolfan Pentre Awel yn cynnig y cyfleusterau canlynol i ymwelwyr eu mwynhau:
- Pwll 25m ag 8 lôn, pwll bach a phwll hydrotherapi
- Campfa sydd â'r dechnoleg glyfar ddiweddaraf ac offer o'r radd flaenaf, sy'n cynnwys golygfeydd ar draws Llynnoedd Delta a'r awyr agored.
- Stiwdio chwilbedlo bwrpasol gyda beiciau Keiser
- Gofod helaeth ar gyfer dawns a ffitrwydd grŵp
- Neuadd chwaraeon 8 cwrt (sy'n cyfateb i 2 gwrt pêl-rwyd maint llawn)
- Ystafelloedd cynadledda ac ystafelloedd cyfarfod modern
- Mannau cymunedol croesawgar, mannau gwyrdd hygyrch a llwybrau arfordirol godidog a llwybrau beicio.
- Caffi ar y safle sy'n cynnig prydau twym, byrbrydau, opsiynau 'prynu a mynd', ac amrywiaeth o ddiodydd twym ac oer
- Gwefru Cerbydau Trydan
Yn lansio cyn hir:
- Gofal iechyd cymunedol a mannau ymchwil
- Rhaglenni addysgu a hyfforddi arloesol
- Gofod i feithrin busnesau ac arloesi gan ddarparu swyddfeydd ac ardaloedd cydweithio i fusnesau o bob maint.
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin "Rydym yn falch iawn o weld Canolfan Pentre Awel yn cyrraedd y cam hwn. Mae'n brosiect a fu ar y gweill am flynyddoedd a bydd hon yn foment drawsnewidiol nid yn unig i Lanelli, ond i Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth ehangach. Dyma enghraifft wirioneddol o gydweithrediad y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn darparu buddion hirdymor i'n cymunedau. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r prif gontractwr Bouygues UK, y gadwyn gyflenwi leol a chenedlaethol a phawb fu'n cymryd rhan am eu gwaith caled yn ystod adeiladu Canolfan Pentre Awel."
Dywedodd Peter Sharpe – Cyfarwyddwr Prosiect Bouygues UK "Mae trosglwyddo Parth 1 Canolfan Pentre Awel yn garreg filltir bwysig i bawb sy'n ymwneud â'r prosiect trawsnewidiol hwn. Rwy'n falch iawn o fy nhîm sydd wedi darparu cyfleuster a fydd yn cael effaith barhaol ar y gymuned leol, gan gefnogi iechyd, llesiant, dysgu a thwf economaidd yn Llanelli a thu hwnt. Mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Caerfyrddin a'n holl bartneriaid i wireddu'r weledigaeth uchelgeisiol hon."
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar barthau'r dyfodol a fydd yn cynnwys cartref nyrsio, gofal ychwanegol, byw â chymorth a gwesty.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan newydd
Pentre Awel: Pentre Awel