Trigolion a chlybiau chwaraeon Llanelli oedd y bobl gyntaf i gael eu croesawu i Canolfan Pentre Awel, sydd wedi agor heddiw, 15 Hydref 2025.
Croesawyd y gymuned leol drwy'r drysau gan Arweinydd ac aelodau Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin, wrth i Canolfan Pentre Awel agor i'r cyhoedd.
Dyma un o'r cynlluniau adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru, a Canolfan Pentre Awel yw cam cyntaf y prosiect hwn, sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sydd wedi'i ariannu ar y cyd gan Lywodraethau'r DU a Chymru a Chyngor Sir Caerfyrddin. Rhoddwyd £40 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru).
Yn ystod yr hyn oedd yn garreg filltir o bwys i un o brosiectau mwyaf nodedig Sir Gaerfyrddin, daeth grwpiau chwaraeon lleol i gael eu sesiwn hyfforddi agored gyntaf yn y cyfleuster newydd.
Canolfan Pentre Awel yw datblygiad diweddaraf Llanelli, gan ddod â'r sector preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector at ei gilydd o dan yr un to, gyda'r nod o wella iechyd a llesiant, rhoi hwb i'r economi a chefnogi pobl ar bob cam o fywyd. Y prosiect yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Mae llwybrau bysiau'n arwain yn hwylus at Canolfan Pentre Awel; llwybrau sy'n cysylltu canol tref Llanelli, Parc Pemberton, Parc Trostre, Penyfan, Morfa, Canolfan Pentre Awel, Dyffryn y Swistir, Ysbyty'r Tywysog Philip a Felin-foel. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i'r wefan.
Gan siarad ar y diwrnod agoriadol, dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, "Mae agor Canolfan Pentre Awel yn enghraifft glir o beth allwn ni ei wneud drwy gydweithio ar draws gwasanaethau, sectorau a chymunedau. Canlyniad blynyddoedd o weithio mewn partneriaeth yw Canolfan Pentre Awel, ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i wella iechyd, addysg a chanlyniadau economaidd i bobl Sir Gaerfyrddin. Mae'n cyd-fynd â'n hamcanion ehangach i gyflawni twf cynaliadwy, lleihau anghydraddoldeb a chreu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig."
Bydd digwyddiad swyddogol i agor Canolfan Pentre Awel yn cael ei gynnal tua diwedd y flwyddyn, a bydd cynrychiolwyr yno o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, rhanddeiliaid a'r gymuned ehangach.