Croesawodd Canolfan Pentre Awel, Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru, ddydd Gwener 6 Chwefror lle gafodd y cyfle i weld cynnydd ac effaith datblygiad diweddaraf Sir Gaerfyrddin.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd y Prif Weinidog daith o amgylch y cyfleusterau newydd a chyfarfod ag Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Linda Evans a'r Aelod Cabinet, y Cynghorydd Hazel Evans. Mae Canolfan Pentre Awel yn rhan allweddol o weledigaeth hirdymor Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi iechyd, llesiant, dysgu ac adfywio economaidd drwy fannau arloesol, sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
Tynnodd yr ymweliad sylw at sut mae Canolfan Pentre Awel yn dod â gwasanaethau iechyd, addysg, hamdden, busnes a gwasanaethau cymunedol at ei gilydd o dan yr un to, gan greu cyfleoedd newydd a chael effaith barhaol ar y gymuned leol.
Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru:
"Creu swyddi a chyfleoedd da i bobl ledled Cymru yw un o fy mhrif flaenoriaethau, ac mae Pentre Awel yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd i fuddsoddi yn ein cymunedau. Bydd y prosiect hwn yn creu bron i 2,000 o swyddi yn ystod ei oes, gan sbarduno arloesedd mewn gwyddorau bywyd a rhoi hwb i'r economi ranbarthol wrth helpu pobl i ennill y sgiliau, yr hyder a'r llwybrau i gyflogaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
"Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru fel rhan o gyfraniad £40 miliwn Cytundeb Dinas Bae Abertawe i'r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad cryf i dwf economaidd rhanbarthol. Rwy'n arbennig o falch bod 75 y cant o'r gwariant adeiladu wedi'i fuddsoddi yma yng Nghymru, gan gefnogi busnesau lleol. Mae Pentre Awel eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Llanelli ac rwy'n edrych ymlaen at weld camau'r dyfodol yn darparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i bobl yn yr ardal.”
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
"Roedd ymweliad y Prif Weinidog yn gyfle unigryw i ddangos yr hyn gall Canolfan Pentre Awel ei gyflawni wrth i randdeiliaid a phartneriaid ymroddedig gydweithio a rhannu uchelgais. Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â gwella bywydau, sbarduno arloesedd a chreu Sir Gaerfyrddin iachach a mwy cysylltiedig ar gyfer cenedlaethau i ddod.
"Roeddwn yn falch dangos i'r Prif Weinidog yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni hyd yma a rhannu ein huchelgais hirdymor i ddenu busnesau newydd lleol a busnesau cenedlaethol i alw Canolfan yn gartref iddynt a rhannu ethos Pentre Awel o fyw'n dda."
Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
"Mae Canolfan Pentre Awel yn dod â'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector at ei gilydd o dan yr un to i ddarparu eco-system a mainc arbrofi go iawn i gefnogi cenedlaethau'r dyfodol i fyw a heneiddio'n dda drwy'r cynnig unigryw o ddarparu gwasanaethau iechyd a llesiant cymunedol rheng flaen sy'n cyd-fynd ag ymchwil, arloesi a hyfforddiant. Canolfan yw'r cam cyntaf ar ein taith i gyflawni ein huchelgais ehangach ar gyfer prosiect Pentre Awel. Rwyf am ddiolch i'r Prif Weinidog am ymweld â Llanelli a gweld y datblygiad nodedig hwn."
Mae camau'r dyfodol ar gyfer prosiect Pentre Awel yn cynnwys cartref nyrsio, canolfan gofal byw â chymorth, gwesty 4 seren a thai marchnad agored.
Canolfan Pentre Awel yw cam cyntaf y prosiect hwn, sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sydd wedi'i ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin. Rhoddwyd £40 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU). Mae Canolfan Pentre Awel yn brosiect ar y cyd, sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr.