Mae achos busnes diwygiedig y Fargen Ddinesig - sydd bellach wedi'i gymeradwyo gan gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot - yn canolbwyntio ar arloesedd, tanwydd di-garbon a dyfodol dur.
Mae'r achos busnes diwygiedig hefyd yn cynnwys gweledigaeth i wneud Ardal Fenter Glannau Port Talbot yn borth i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe cyfan, sy'n cynnwys Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Yn gyffredinol, mae'r achos busnes wedi'i ailfodelu yn ceisio buddsoddiad o £47.7 miliwn gan y Fargen Ddinesig dros bum blynedd, wedi'i ariannu'n rhannol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a ffrydiau cyllido eraill.
Nod yr achos busnes yw creu a diogelu 1,300 o swyddi, gan ddarparu 18,000 metr sgwâr o le busnes er mwyn ateb y galw gan fusnesau bach a chanolig.
Bydd yr achos busnes diwygiedig yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Strategaeth Economaidd a Chyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig - yn ogystal â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU - i'w gymeradwyo cyn gynted â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Mae hwn yn gam hanfodol i adfywio momentwm y Fargen Ddinesig. Mae'r cyngor wedi egluro'i fwriad i sicrhau y bydd y Fargen Ddinesig yn gweithio, os gallwn, ac mae'r cynigion hyn yn gosod sylfaen well o lawer ar gyfer symud ymlaen, yn ogystal â chyflwyno thema newydd o ddatgarboneiddio ein heconomi."
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Rydym yn croesawu ymrwymiad parhaus Cyngor Castell-nedd Port Talbot i'r Fargen Ddinesig, sy'n hynod bwysig o ran swyddi a ffyniant economaidd ledled Dinas-rhanbarth Bae Abertawe yn ei gyfanrwydd.
"Edrychwn ymlaen at gael yr achos busnes diwygiedig i'w gymeradwyo yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor. Mae hyn yn dilyn cytundeb diweddar gan y ddwy lywodraeth i ryddhau £18 miliwn o gyllid y Fargen Ddinesig, yn amodol ar gymeradwyo dau brosiect - Yr Egin yng Nghaerfyrddin, ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau."
Mae rhaglen ddiwygiedig Castell-nedd Port Talbot wedi'i rhannu'n bedair thema:
- Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe - Adeilad cadarnhaol o ran ynni a fydd yn darparu swyddfeydd i fusnesau newydd a busnesau lleol, yn ogystal â throsglwyddo ynni gormodol o baneli haul a dulliau adnewyddadwy eraill i'r Ganolfan Hydrogen gerllaw. Bydd yr ynni hwn wedyn yn cael ei ddefnyddio i greu tanwydd di-garbon ar gyfer cerbydau'r cyngor.
- Canolfan Arloesi Dur Genedlaethol sydd â'r nod o gefnogi'r diwydiant dur ym Mhort Talbot a Chymru. Bydd ymchwil a datblygiadau'n cael eu gwreiddio yn nyfodol y diwydiant dur ledled y rhanbarth er mwyn lleihau allyriadau carbon ymhellach.
- Datgarboneiddio - Gweithio gyda phrosiect ymchwil FLEXIS ar gyfres o brosiectau eraill, gan gynnwys y cyswllt ynni rhwng Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe a'r Ganolfan Hydrogen, gan lunio map o'r llwybrau ar gyfer gwefru cerbydau trydan, modelu ansawdd aer a'i fonitro mewn amser real.
- Dyfodol Diwydiannol - Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r bwlch rhwng y galw a'r cyflenwad i fusnesau a'r tir gwag yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot. Bydd adeilad hybrid yn darparu unedau cynhyrchu, a swyddfeydd ar gyfer busnesau newydd a busnesau lleol - yn enwedig y rheiny yn y sectorau arloesi a gweithgynhyrchu. Bydd yna hefyd labordy a gefnogir gan Industry Wales ar gyfer prosiectau deilliedig i ennill arian yn sgil prosiectau ymchwil a datblygu, yn ogystal ag adfer tir, gwaith amddiffyn rhag llifogydd, adeiladu ffyrdd mynediad ac uwchraddio'r priffyrdd.