Mae busnesau sy'n dymuno tyfu, arallgyfeirio neu fuddsoddi mewn technolegau adnewyddadwy ledled de orllewin Cymru yn cael eu gwahodd i wneud cais i Gronfa Cadwyn Gyflenwi newydd sy'n werth £7 miliwn.

Y gronfa, a lansiwyd drwy brosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS) Bargen Ddinesig Bae Abertawe, wedi ei gynllunio i gryfhau cadwyn gyflenwi'r rhanbarth, creu swyddi sgilgar a helpu i sefydlu de orllewin Cymru fel canolfan ragoriaeth ar gyfer technolegau adnewyddadwy. Bydd y gronfa'n darparu grantiau rhwng £100,000 a £1 miliwn i gefnogi busnesau sy'n rhan o'r gwaith o weithgynhyrchu technolegau adnewyddadwy a chydrannau.

Bydd datblygu cadwyn gyflenwi leol gryfach hefyd yn helpu i gynyddu gallu'r rhanbarth i ateb y galw cynyddol oddi wrth aelwydydd sydd eisiau gosod technolegau adnewyddadwy. Drwy gefnogi mwy o fusnesau lleol i weithgynhyrchu'r technolegau hyn, gall y gronfa ei gwneud hi'n haws i breswylwyr gael mynediad i atebion sy'n lleihau biliau ynni, gwella effeithlonrwydd ynni a chefnogi pontio i gartrefi sy'n defnyddio llai o garbon.

Mae cyllid ar agor i fusnesau newydd sy'n chwilio am ffordd o fuddsoddi mewn technolegau adnewyddadwy, busnesau bach sy'n dymuno ymestyn eu capasiti, a chwmnïau mwy o faint sydd eisiau arallgyfeirio'u cynnig o gynhyrchion. 

Bydd y buddsoddiad, drwy gyfrwng prosiect Cartrefi fel Pwerdai (HAPS) Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn canolbwyntio ar dechnolegau sy'n cynnwys pympiau gwres, systemau solar ffotofoltáig (a elwir hefyd yn baneli solar), systemau ynni clyfar, storio batri domestig, waliau pŵer a thechnolegau gwresogi is-goch, law yn llaw ag atebion adnewyddadwy arloesol eraill.

Mae'r galw am dechnolegau adnewyddadwy yn dal i gynyddu wrth i aelwydydd chwilio am ffyrdd o leihau costau ynni ac allyriadau carbon.

Fodd bynnag, mae llawer o'r cynnyrch a'r cydrannau angenrheidiol yn deillio o'r tu fas i dde orllewin Cymru ar hyn o bryd, ac mewn rhai achosion, o dramor. Nod y gronfa yw cryfhau gallu gweithgynhyrchu yn lleol a'u cadwyni cyflenwi, gan sicrhau fod mwy o'r manteision economaidd yn cael eu cadw yn y rhanbarth.

Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: 

"Drwy gefnogi datblygu cadwyn gyflenwi leol ar gyfer technolegau adnewyddadwy, gallwn greu swyddi sgilgar, denu buddsoddiad a sicrhau fod gan y rhanbarth yr arbenigedd angenrheidiol i ddarparu mwy o gartrefi ynni-effeithlon.

"Bydd y gronfa'n helpu i leoli de orllewin Cymru fel canolbwynt rhagoriaeth ar gyfer technolegau adnewyddadwy, ac ar yr un pryd yn cefnogi twf economaidd a sicrhau y gall mwy o aelwydydd elwa o'r costau ynni is a all ddod yn sgil y technolegau hyn."

Yn ôl Oonagh Gavigan, Rheolwr Prosiect Cartrefi fel Pwerdai:

"Mae'r gronfa hon yn ymwneud â helpu busnesau ledled de orllewin Cymru i dyfu, arloesi ac ateb y galw cynyddol ar gyfer technolegau ynni yn y cartref. Gwelir diddordeb cynyddol oddi wrth aelwydydd sy'n dymuno gosod technolegau fel pympiau gwres, paneli solar, a gallu stori batri, a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i weld mwy o'r cynnyrch a'r cydrannau hyn yn cael eu gweithgynhyrchu'n nes at adref.

"Drwy gefnogi busnesau i arallgyfeirio ac ymestyn, gallwn gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, creu swyddi o ansawdd uchel a sicrhau y bydd mwy o'r manteision economaidd sy'n dod yn sgil [pontio i gartrefi carbon isel yn cael eu cadw oddi fewn i'n rhanbarth ni."

Meddai Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Portffolio ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

"Mae Cronfa Cadwyn Gyflenwi Cartref fel Pwerdai yn dangos sut y mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe nid yn unig yn buddsoddi mewn technoleg ac isadeiledd, ond hefyd yn y busnesau a fydd yn helpu i yrru twf economaidd hirdymor.

"Drwy gryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chefnogi arloesi, rydyn ni'n creu cyfleoedd i gwmnïau ar draws y rhanbarth i chwarae rhan arweinyddol yn y broses o bontio i gartrefi mwy clyfar, mwy carbon-isel."

Anogir busnesau sydd â diddordeb mewn gwneud cais i adolygu'r meini prawf cymhwysedd a'r canllawiau ymgeisio cyn cyflwyno eu cynigion, Mae ceisiadau'n cau ar 9 Tachwedd 2026, a rhaid i bob arian gael ei ddyrannu a'i wario erbyn mis Rhagfyr 2027.

I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion sesiwn holi ac ateb sydd ar fin digwydd, ewch i dudalen we Cronfa Cadwyn Gyflenwi HAPS neu e-bostiwch haps@npt.gov.uk.