Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cyrraedd carreg filltir drwy gwblhau 50% o'r gwaith i uwchraddio safleoedd sector cyhoeddus allweddol gyda chysylltedd ffeibr llawn sydd wedi'i ddiogelu i'r dyfodol.
Mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gyda chymorth o’r Gronfa Band Eang Lleol, wedi llwyddo i gwblhau 50% o'i phrosiect Adeiladu Seilwaith Ffeibr Llawn. Mae'r garreg filltir arwyddocaol hon yn gam mawr ymlaen o ran gwella cysylltedd digidol i safleoedd sector cyhoeddus ledled y rhanbarth, gyda manteision ariannol a chymdeithasol sylweddol i gymunedau cyfagos.
Nod adeiladu'r seilwaith ffeibr llawn, a ddarperir gan BT drwy Brosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw darparu gwell darpariaeth band eang i safleoedd sector cyhoeddus ledled y rhanbarth. Mae Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus yn cysylltu sefydliadau'r sector cyhoeddus â Rhwydwaith Ardal Eang preifat, diogel, sy'n cynnig gwasanaeth a reolir yn llawn sy'n gwella cysylltedd hanfodol i fusnes, ac sy'n caniatáu i sefydliadau'r sector cyhoeddus elwa o wasanaethau rhwydwaith arloesol, cost-effeithiol a chadarn sy'n sbarduno cynhyrchiant. Mae buddiolwyr y prosiect yn cynnwys pob un o'r pedwar awdurdod lleol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Nod y prosiect yw cyflwyno band eang ffeibr llawn i 69 o safleoedd dan berchnogaeth gyhoeddus sydd angen gwell seilwaith. Mae'r fenter hon yn darparu cysylltedd cyflym, dibynadwy, wedi'i ddiogelu i'r dyfodol i fodloni gofynion digidol cynyddol a chefnogi agendâu trawsnewid digidol ehangach y sector cyhoeddus. Mae'r prosiect yn addo gwasanaethau mwy effeithlon a gwell profiadau i breswylwyr a busnesau, arbedion cost i bartneriaid, a'r potensial ar gyfer cymwysiadau digidol arloesol fel realiti estynedig (AR) a phrofiadau realiti rhithwir (VR) mewn lleoliadau twristiaeth allweddol fel Parc Gwledig Pen-bre a Pharc Gwledig Margam.
Dywedodd Simon Davies, Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin, "Mae cyrraedd y garreg filltir 50% hon yn gyflawniad gwych ac yn un a fydd yn gwella gwasanaethau'r safleoedd sector cyhoeddus hyn yn fawr.
“Mae uwchraddio'r lleoliadau hyn i gael seilwaith digidol ar gyfradd gigadid yn hanfodol ar gyfer eu ffyniant yn y dyfodol. Mae angen i'n partneriaid rhanbarthol yn y sector cyhoeddus symud ymlaen gyda'u defnydd o dechnoleg ddigidol i sicrhau y gellir cynnig y profiadau gorau ac mae'r prosiect hwn yn rhan werthfawr o gyflawni hynny.”
Yn ogystal, bydd tua 425 o adeiladau preswyl a busnes yn elwa o fand eang gwell o ganlyniad, a disgwylir i'r prosiect ysgogi buddsoddiad masnachol pellach, gan gyflymu'r broses o gyflwyno rhwydweithiau ffeibr llawn ar draws y rhanbarth. Bydd y buddsoddiad ar y cyd hwn o £2m (£1.05m ohono wedi ei sicrhau gan y Rhaglen Seilwaith Digidol o Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru) yn darparu uwchraddiadau hanfodol i seilwaith a fydd yn gwella ansawdd bywyd i breswylwyr a busnesau, denu buddsoddiad newydd, ac ysgogi twf economaidd.
Mae safleoedd sydd wedi'u cwblhau yn y cam hwn yn cynnwys lleoliadau strategol sy'n hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r safleoedd hyn wedi'u blaenoriaethu i sicrhau'r effaith fwyaf ar y gymuned a sicrhau'r defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, "Mae cadw i fyny â'r galw cynyddol am wasanaethau digidol ar draws y sector cyhoeddus yn hanfodol er mwyn sicrhau'r profiadau gorau posibl i'n preswylwyr a'n busnesau, ac er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni fuddsoddi yn y seilwaith sydd ei angen i sicrhau bod ein gwasanaethau wedi'u diogelu i'r dyfodol am yr 20 mlynedd nesaf. Mae cyflawni'r marc o 50% yn garreg filltir allweddol i'r prosiect hwn ac mae wedi caniatáu i sawl safle elwa o fuddion ffeibr llawn eisoes. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda BT a Phrosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus ar gwblhau'r prosiect hwn yn llawn wrth gefnogi trawsnewid darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus”.