Mae taith dywys o amgylch safle datblygu Ffordd y Brenin yn cael ei threfnu i annog plant lleol i ystyried gyrfaoedd mewn adeiladu, peirianneg neu ddylunio a thechnoleg.
Mae Bouygues UK, prif gontractwr Cyngor Abertawe ar gyfer cynllun 71/72 Ffordd y Brenin 71/72, yn trefnu'r daith fel rhan o fenter Drysau Agored 2023 Build UK.
Cynhelir y daith dywys rhwng 9.30am ac 11am ddydd Sadwrn 18 Mawrth, ac mae wedi'i hanelu at rieni a gwarcheidwaid a hoffai ddod â phlant dros wyth oed draw i brofi safle adeiladu byw y tu ôl i'r llenni.
Cyngor Abertawe sydd y tu ôl i'r gwaith datblygu ar gyfer y swyddfa hyblyg newydd a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o weithwyr yn safle 71/72 Ffordd y Brenin, a oedd yn gartref i glybiau nos gan gynnwys Top Rank, Rizty's, Time and Envy ac, yn fwyaf diweddar, Oceana yn flaenorol.
Disgwylir i waith adeiladu ar y datblygiad gael ei gwblhau yn gynnar yn 2024.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r cynllun yn 71/72 Ffordd y Brenin ymysg nifer yn Abertawe lle mae'r gwaith adeiladu'n parhau wrth i drawsnewidiad ein dinas barhau er budd pobl leol a busnesau lleol.
"Mae'n ddiwydiant sy'n cyflogi miloedd lawer o bobl ledled ein dinas a thu hwnt, felly mae'r daith dywys hon yn gyfle gwych i'n pobl ifanc gael rhagor o wybodaeth am adeiladu ac ystyried gyrfaoedd yn y sector yn y dyfodol.
"Yn ogystal ag adeiladu ei hun, bydd cyfle hefyd i unrhyw un sy'n mynd ar y daith ddysgu ychydig mwy am beirianneg, dylunio a thechnoleg.
"Bydd y daith dywys yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar bopeth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni ar ddatblygiad mawr o'r math hwn."
Gofynnir i rieni a gwarcheidwaid plant dros 8 oed fynd i https://opendoors.construction/site/581 er mwyn cadw lle. Bydd angen i bob plentyn dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Unwaith y caiff datblygiad 71/72 ei gwblhau, bydd y cynllun yn un di-garbon o ran ei weithrediad ac yn werth £32.6 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe. Mae'r gwaith adeiladu ar gyfer y cynllun pum llawr bellach wedi cyrraedd lefel y stryd.
Mae'r datblygiad yn cael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn ac yn cael ei gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun, sydd wedi'i anelu at gadw doniau busnes ifanc yn Abertawe ac annog mwy o ymwelwyr â chanol y ddinas, hefyd yn cynnwys gwyrddni ym mhob rhan o'r adeilad, balconïau sy'n edrych dros ganol y ddinas a Bae Abertawe, a chyswllt newydd i gerddwyr rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen.