Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn falch o gyhoeddi bod y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) wedi cytuno i gynnal un o'r pyrth Rhwydwaith Ardal Eang Pellgyrhaeddol (LoRaWAN), sy'n rhan o Rwydwaith Arloesi Digidol ehangach Dinas-ranbarth Bae Abertawe, ar ei safle 700 hectar ger Onllwyn. 

Mae'r dechnoleg hon yn darparu cysylltedd di-wifr ar gyfer ystod o atebion y Rhyngrwyd Pethau (IoT) neu rwydwaith o ddyfeisiau cysylltiol.

Mae'r synwyryddion IoT cost isel, sy'n cael eu pweru gan fatri, ynni'r haul neu wres, yn gweithio gyda'r porth i ganiatáu casglu a monitro ystod eang o ddata o bell, a all ddarparu mewnwelediad i lywio'n well y gwaith ymchwil a'r datblygiad sy'n cael ei wneud o ran y dechnoleg, gyda'r nod o ddatblygu atebion i'r diwydiant yn y tymor hir.  

Gellir monitro senarios profi fel llifogydd, ymsuddiant a monitro'r tymheredd i sicrhau bod gwasanaethau'r rheilffyrdd yn gweithio'n fwy cynaliadwy a fforddiadwy, gan eu gwneud yn haws i ddefnyddwyr ac yn fwyfwy ecogyfeillgar.

Ariannwyd y Rhwydwaith Arloesi Digidol gan Lywodraeth Cymru, Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r pedwar awdurdod lleol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe. Mae'r rhwydwaith hwn o 240+ o byrth yn darparu cysylltedd i alluogi defnydd o'r Rhyngrwyd Pethau.  

Mae cyflwyno'r porth LoRaWAN yn cynyddu'n genedlaethol i gynorthwyo â'r angen cynyddol i ddefnyddio data i helpu i wella'r ffordd rydym yn byw. Heb os, bydd hyn yn helpu i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn y dyfodol. 

Gellir gweld lleoliadau byw ar unrhyw adeg drwy ddilyn y ddolen hon:  Map Porth LoRaWAN gyda mynediad ar gael yn rhwydd drwy weinydd rhwydwaith LoRaWAN i weld y raddfa, The Things Industries neu The Things Network (ar gyfer busnesau newydd).

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE Ltd, Simon Jones, "Rydym wrth ein bodd ein bod yn ymestyn ein perthynas â Chyngor Castell-nedd Port Talbot ymhellach drwy gytuno i gynnal ei borth LoRaWAN ar safle GCRE.”

“Mae cwmpas yr offer hwn yn golygu y gallwn wneud llawer mwy o waith ymchwil na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, gan wneud y safle'n fwy hyblyg ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol a gwella'r cynnig y gallwn ei wneud i'n cwsmeriaid yn y diwydiant rheilffyrdd a symudedd.

“Mae'r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn ddatblygiad sydd â phedair cenhadaeth glir - ailddatblygu ffyniant lleol; gwneud trafnidiaeth yn well; arloesi rheilffordd Sero Net ac adnewyddu lle anhygoel. Mae cael seilwaith digidol o ansawdd uchel ar y safle yn hanfodol i gyflawni'r uchelgeisiau hynny ac mae wedi bod yn wych gweithio gyda'n partneriaid yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar y prosiect cyffrous ac arloesol hwn.”

Mae'r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn gyfleuster pwrpasol sy'n cael ei adeiladu ger Onllwyn ar gyfer gwaith ymchwil, profi ac ardystio seilwaith o'r radd flaenaf a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol, y cyfleuster cyntaf o'i fath yn Ewrop. 

Gyda chymorth buddsoddiad o £70m gan Lywodraethau Cymru a'r DU, a £7.4m arall yn cael ei ymrwymo gan Innovate UK ar gyfer ymchwil a datblygu ar y safle, mae'r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd eisoes yn denu peirianwyr, datblygwyr meddalwedd a dylunwyr blaenllaw o bob cwr o'r byd sy'n gysylltiedig â'r diwydiant rheilffyrdd a symudedd.

Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Mae'r prosiect hwn yn ychwanegiad gwerthfawr i Gastell-nedd Port Talbot ac mae'n galonogol iawn gwybod bod canolfannau ymchwil a thechnoleg o'r radd flaenaf yn dewis datblygu eu safleoedd yn y fwrdeistref sirol hon.  Mae'r manteision sy'n deillio o'r datblygiad hwn yn hanfodol ar gyfer taith Castell-nedd Port Talbot i gryfhau ei gyfleoedd economaidd drwy ei gysylltedd digidol.  Ein huchelgais yw creu cymdeithas sy'n flaengar yn ddigidol ac mae hon yn enghraifft wych o sut rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir o ran cyflawni hynny.”

Mae'r bartneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot a'r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn enghraifft wych o slogan Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sef 'Cysylltedd drwy gydweithredu' ac mae ganddi'r sylfeini i fod o fudd i wasanaethau eraill yn y cyffiniau oherwydd ei hystod eang o alluoedd. 

Mae'r datblygiad diweddar gan y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn un a fydd nid yn unig yn denu rhagor o ddiddordeb yn yr ardal ond bydd yn cryfhau uchelgais Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu cysylltedd digidol di-dor ar draws y fwrdeistref sirol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: m.morris@npt.gov.uk

 

 

 

image