Mae Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer Sefydliad Cenedlaethol Chwaraeon ac Iechyd Cymru.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac yn rhan o brosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd yr adeilad newydd hwn yn disodli'r pafiliwn wrth ymyl y trac athletau ar Gampws Singleton y Brifysgol ar Lôn Sgeti, a phan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd yn adeilad ymchwil ac arloesi pwrpasol ar gyfer technoleg chwaraeon. 

Gan greu tua 2,000 metr sgwâr o le, bydd y datblygiad hwn yn cynnwys ardaloedd labordy ac arddangos, gweithdai, man swyddfa, stiwdios cyfryngau ac ystafelloedd seminar ar gyfer y Brifysgol, y sector iechyd a phartneriaid masnachol. Bydd yn creu amgylchedd sy'n cefnogi datblygu, profi a gwerthuso technolegau meddygol, iechyd, llesiant a chwaraeon, a gallai gynnwys 'technolegau gwisgadwy' sy'n casglu data yn ystod gweithgarwch corfforol y gellid ei gyflwyno i chwaraeon elitaidd a'r cyhoedd.

Arweinir y prosiect Campysau gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Partneriaeth Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) a phartneriaid allweddol yn y sector preifat. Yn ogystal ag adeiladu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Chwaraeon ac Iechyd, bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar greu cymuned ddeinamig o weithwyr proffesiynol sy'n cydweithio ym maes arloesi chwaraeon, iechyd a lles o'r enw NNIISH, a llwybr mynediad o draffordd yr M4 i'r safle 55 erw sy'n eiddo i'r GIG ac Ysbyty Treforys.

Cymeradwyodd pwyllgor cynllunio Cyngor Abertawe y cais ar gyfer y Sefydliad Cenedlaethol dros Chwaraeon ac Iechyd yn unfrydol ar ôl clywed gan swyddog cynllunio a ddywedodd nad oes canolfan ar gyfer technoleg chwaraeon yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

"Mae cymeradwyo'r cais cynllunio yn benderfyniad pwysig i Abertawe ac i Gymru. Trwy greu canolfan technoleg chwaraeon gyntaf y genedl yma yn ein dinas, rydyn ni'n rhoi ein hunain ar flaen y gad o ran arloesi mewn chwaraeon, iechyd a thechnoleg. Gyda labordai, ardaloedd arddangos, gweithdai, stiwdios cyfryngau a mannau cydweithredol o'r radd flaenaf, bydd y cyfleuster hwn  yn gyrru ymchwil arloesol ynghyd â chreu cyfleoedd i Brifysgol Abertawe, y sector iechyd a phartneriaid masnachol weithio ochr yn ochr.  Mae'n fuddsoddiad mewn sgiliau, swyddi, a'n dyfodol fel canolfan rhagoriaeth chwaraeon."