Mae'r Ganolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE), dan arweiniad Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr, wedi lansio Cystadleuaeth Arloesi mewn Monitro Morol Cymru.

Nod y gystadleuaeth hon yw rhoi cymorth wedi'i dargedu, a chael gwared ar rwystrau er mwyn annog busnesau monitro morol i fynd i mewn i gadwyn gyflenwi gwynt ar y môr y DU, gan alluogi datblygu prosiectau adnewyddadwy ym Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd.

Trwy gyngor arbenigol, mynediad at ddatblygu gweithdai a phrofion peilot ar y tir ac ar y môr, nod y cyfle unigryw hwn yw cefnogi busnesau bach a chanolig i drawsnewid eu busnesau drwy ddilysu a lleihau risgiau eu technolegau monitro amgylchedd morol arloesol.

Mae MEECE yn rhan o'n prosiect Ardal Forol Doc Penfro sy'n gweithio i roi Cymru a chwmnïau o Gymru wrth wraidd sectorau ynni adnewyddadwy morol ac ynni adnewyddadwy ar y môr sy’n tyfu yn y DU. Mae'r ganolfan yn Noc Penfro yn darparu gweithgareddau ymchwil, datblygu ac arddangos i gefnogi arloesedd yn y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy ar y môr gan gyflymu'r broses o fasnacheiddio'r sectorau ynni tonnau, llanwol a gwynt ar y môr.

I wneud cais, rhaid i’r cwmni wneud/fod yn un o’r canlynol:

  • Busnes cofrestredig yn y DU
  • Busnes micro, bach neu ganolig
  • Busnes sy’n gweithredu neu’n ehangu ei weithgareddau yn y clwstwr arloesi morol a morwrol yng Nghymru
  • Busnes a chanddo uchelgais amlwg i dyfu
  • Busnes sy’n cynnig cyfraniad ariannol a/neu mewn nwyddau at gyfanswm costau’r prosiect
  • Busnes sy'n gwneud un cais yn unig i’r alwad ariannu hon fesul cwmni
  • Busnes sy’n dangos bwriad clir i arallgyfeirio i ynni gwynt ar y môr neu ddangos ei allu presennol yn y sector
  • Busnes sy’n gallu mynegi’n glir ei awydd i ymuno / tyfu ei bresenoldeb yn y farchnad ynni gwynt ar y môr
  • Busnes sy’n deall ei anghenion a’i ddiffygion ei hun fel busnes ac sy’n meddu ar agwedd ragweithiol tuag at wella busnes ac adborth adeiladol
  • Busnes sy’n gallu dangos sut y byddai’r ymyriad yn effeithio arno a’r hyn y byddai’n ei gynnig yn ychwanegol ar ôl diwallu’r anghenion a nodir

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

"Mae lansio Cystadleuaeth Arloesi mewn Monitro Morol Cymru yn gam sylweddol ymlaen wrth ddatgloi'r potensial i fusnesau bach a chanolig lleol fod yn rhan o'r sector gwynt ar y môr yn y DU. Drwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu a chael gwared ar rwystrau allweddol, mae'r fenter hon yn galluogi busnesau yn y diwydiant monitro morol i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatblygu prosiectau adnewyddadwy ym Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd - gan helpu i hybu dyfodol glanach, gwyrddach wrth gryfhau'r gadwyn gyflenwi ranbarthol.”

Gallwch chi ddarllen mwy am gymhwysedd, y broses ymgeisio, cyllid a gwerthuso yn y ddogfen ar y cwmpas a'r canllawiau.

Cliciwch yma i wneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Mawrth 12 Awst 2025.