Amcangyfrifir y bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn denu tua £1.26 biliwn o fuddsoddiad erbyn 2033 ac mae'n fuddsoddiad na welwyd ei debyg o'r blaen drwy Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Bydd yn helpu i drawsnewid ardaloedd trefol a gwledig de-orllewin Cymru yn fan lle gall busnesau ffynnu a gall preswylwyr roi hwb i'w sgiliau a chael mynediad at dros 9,000 o gyfleoedd gwaith sy'n talu'n dda.
Yn ystod 2024, roedd momentwm y Fargen Ddinesig wedi dal ati i gyflymu, a disgwylir i 2025 fod yn flwyddyn lwyddiannus arall i bob un o'r naw o brif raglenni a phrosiectau. Trwy gydweithio rhwng partneriaid allweddol, bydd cerrig milltir cyffrous yn cael eu cyflawni a bydd adeiladau allweddol yn cael eu cwblhau, gan roi hwb pellach i'r economi a thyfu'r rhanbarth.
Disgwylir i gam un Pentre Awel, dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, agor yn 2025. Bydd y cyfleuster modern o'r enw Canolfan yn croesawu'r gymuned a busnesau o'r radd flaenaf trwy gyfuno ymchwil feddygol a chyfleusterau meithrin busnesau, darparu gofal iechyd, addysg a hyfforddiant ynghyd â chyfleusterau hamdden i annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach.
Bydd 71/72 Ffordd y Brenin yn agor yng nghanol dinas Abertawe yn gynnar yn 2025. Wedi'i datblygu gan Gyngor Abertawe a'i hariannu'n rhannol gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, mae'r swyddfa newydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi mewn sectorau sy’n cynnwys y sector technoleg a’r sector digidol. Mae dros 75% o'r swyddfa bellach dan gynnig a bydd y tenantiaid yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
Hefyd, fel rhan o brosiect canol dinas Abertawe bydd Matrics Arloesi Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cael ei lansio'n ffurfiol yn 2025. Bydd yr adeilad o'r radd flaenaf yn cysylltu'r byd busnes a'r byd academaidd ac yn darparu lle i fusnesau ac i ymchwilwyr newydd. Bydd yr adeilad yn cysylltu gweithgareddau ymchwilio a chyfnewid gwybodaeth y Brifysgol â mentrau, entrepreneuriaid a buddsoddwyr perthnasol. Bydd y cydweithrediadau sy'n deillio o hyn yn creu effaith economaidd ar ffurf datblygu cynnyrch newydd, creu swyddi, busnesau newydd gan raddedigion, prosiectau deilliedig y Brifysgol ac eiddo deallusol newydd.
Bydd trafodaethau rhwng Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Chyngor Abertawe yn ystod 2025 hefyd yn ystyried prosiect dilynol i ddatblygu gofod ymchwilio a chydweithio ychwanegol yn y Ganolfan Arloesi.
Bydd Arena Abertawe'n dathlu ei thrydedd flwyddyn o weithredu gyda'r 750,000fed gwestai drwy'r drws, ac mae'r prif berfformiadau ar gyfer 2025 yn cynnwys The Manic Street Preachers, Paddy McGuinness, Alison Moyet a Max Boyce, yn ogystal ag ystod amrywiol o ddigwyddiadau, cynadleddau a seremonïau.
Bydd Campysau, prosiect arall yn Abertawe dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn paratoi'r safle ar gyfer Canolfan Arloesi Lôn Sgeti ac yn datblygu'r broses o ddylunio a thendro ar gyfer y Ganolfan Reoli yn Ysbyty Treforys. Bydd y Canolfannau yn sefydlu amgylchedd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a phrofi technolegau meddygol, iechyd, llesiant a chwaraeon. Bydd y prosiect hefyd yn tyfu'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd a sefydlwyd yn ddiweddar i greu cymuned o weithwyr proffesiynol sy'n cydweithio mewn technoleg iechyd.
Mae'r rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer cyfleuster Canolfan Ddiwydiannol Pontio o Garbon De Cymru (SWITCH) a disgwylir penderfyniad cyllido ddechrau 2025. Mae hon yn ganolfan arloesi gydweithredol i helpu i ddatgarboneiddio'r diwydiant dur a metelau a'i gadwyn gyflenwi, i gryfhau cydweithio rhwng y diwydiant a'r byd academaidd ac i ddiogelu'r diwydiant dur a metelau yng Nghymru a'r DU yn y dyfodol. Bydd y rhaglen hefyd yn croesawu rhagor o denantiaid i Ganolfan Dechnoleg Bae Abertawe, sy'n effeithlon o ran ynni ac sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal â bwrw ymlaen â cheisiadau a chyflawni'r Gronfa Datblygu Eiddo.
Bydd Yr Egin, sy'n gartref i bencadlys S4C ac i 15 o gwmnïau creadigol a digidol ar gampws Caerfyrddin Prifysgol y Drindod Dewi Sant, 100% yn llawn o ran deiliadaeth ddechrau 2025. Bydd y ganolfan i'r sector creadigol yn dathlu ei seithfed flwyddyn lwyddiannus o weithredu gyda rhaglen o brif ddigwyddiadau, dangosiadau, perfformiadau a gweithdai addysgol a bydd yn parhau i ddarparu cyfleusterau ffrydio byw, ôl-gynhyrchu a gweithfannau cyfleus o ansawdd uchel i amrywiaeth o gleientiaid a busnesau. Cynhyrchodd Yr Egin effaith economaidd o £21.6m i economi Cymru.
Fel rhan o brosiect Ardal Forol Doc Penfro, bydd Porthladd Penfro yn parhau â'i weithrediadau masnachol o'r lle storio a'r pontynau cychod gwaith, ac yn croesawu tenantiaid ychwanegol i'r Randai'r Awyrendai ar ôl yr agoriad swyddogol yn ystod haf 2024. Bydd yr Ardal Profi Ynni'r Môr yn parhau i ddarparu cyfleusterau profi'r môr a gymeradwywyd ymlaen llaw ar gyfer technolegau ynni'r môr. Bydd yr elfen Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE) yn adeiladu ar ei llwyddiant o gael £2 filiwn o gyllid gan y sector preifat drwy brosiectau a arweinir gan brifysgolion a'r diwydiant. Bydd Parth Arddangos Sir Benfro yn parhau i ddefnyddio'i ardal brydles i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a dilysu technoleg newydd y gellid ei defnyddio mewn prosiectau masnachol ar ddiwedd y 2020au ac ar ddechrau'r 2030au.
Mae'r tri phrosiect rhanbarthol hefyd ar y trywydd iawn i gyflawni eu targedau yn 2025.
Bydd y prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer, sy'n hwyluso'r gwaith o fabwysiadu dyluniad effeithlon o ran ynni a thechnolegau adnewyddadwy mewn cartrefi, yn lansio ei Gronfa Cadwyn Gyflenwi. Mae hwn yn ddyraniad cyllid o £7 miliwn a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol gynaliadwy. Ar ôl lansio'r Gronfa Cymhellion Ariannol, mae rhan sylweddol o'r £5.75m wedi'i dyrannu i nifer o gynlluniau tai ar draws y rhanbarth lle mae Ysgol Bensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd yn cynnal gwaith Gwerthuso a Monitro Technegol ar gannoedd o dai i rannu'r dysgu ac i gyflymu nifer y tai â thechnoleg adnewyddadwy.
Bydd y rhaglen Sgiliau a Thalentau, sydd eisoes â thros 25 o brosiectau peilot a datblygiadau o ran prentisiaethau ar waith, yn parhau i weithio gyda'r diwydiant, gan ddatblygu prosiectau peilot ychwanegol i sicrhau bod sgiliau newydd y dyfodol yn cael eu diwallu er budd y rhanbarth. Mae llwyddiant y cynllun peilot Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy yn cael ei adlewyrchu yn nifer y darparwyr eraill ledled y DU sy'n cyflwyno'r cwricwlwm yn 2025. Bydd y rhaglen yn parhau i ddatblygu ei phartneriaethau strategol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat er mwyn sicrhau bod y rhanbarth yn elwa ar weithlu medrus i ateb galw uniongyrchol y diwydiant, yn ogystal ag anghenion o ran sgiliau yn y dyfodol.
Bydd y rhaglen Seilwaith Digidol yn parhau i gyflawni prosiectau ar draws ei thair ffrwd waith: Gwledig, Lleoedd Cysylltiedig a Rhwydwaith Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf. Bydd cydweithio parhaus â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol yn parhau i ysgogi mewnfuddsoddi, gan wella cysylltedd ar gyfer tai a busnesau ledled rhanbarth y Fargen Ddinesig.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, "Mae cynnydd y Fargen Ddinesig yn ystod 2024 wedi bod yn wych wrth inni barhau i adeiladu, tyfu a buddsoddi yn ne-orllewin Cymru. Trwy weithio mewn partneriaeth rydym wedi gweld cynnydd mawr ar draws y portffolio cyfan, ac mae mentrau sydd ar y gweill ar draws y rhanbarth, gan gynnwys mentrau a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Bro, y cais Porthladd Rhydd Celtaidd a'r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru hefyd yn dwyn ffrwyth.
“Mae'n fraint cael bod yn rhan o'r daith wych hon sy'n trawsnewid de-orllewin Cymru er gwell ac rwy'n edrych ymlaen at bethau cyffrous i ddod."