Roedd 2025 yn flwyddyn nodedig i Fargen Ddinesig Bae Abertawe, gan nodi'r pwynt hanner ffordd yn ei chynllun cyflawni 15 mlynedd uchelgeisiol i drawsnewid De-orllewin Cymru.
Gyda phrosiectau adeiladu mawr wedi'u cwblhau, cyfleusterau newydd wedi'u hagor, a miloedd o gyfleoedd sgiliau wedi'u darparu, mae'r rhanbarth yn gweld manteision pendant o'r buddsoddiad hwn o £1.3 biliwn.
Mae'r Fargen Ddinesig yn fuddsoddiad nas gwelwyd ei fath erioed o'r blaen a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus, a'r sector preifat ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Bydd yn helpu i drawsnewid ardaloedd trefol a gwledig De-orllewin Cymru yn fan lle gall busnesau ffynnu a gall preswylwyr roi hwb i'w sgiliau a chael mynediad at dros 9,000 o gyfleoedd gwaith sy'n talu'n dda.
Trwy gydol y flwyddyn, cyflawnodd y tri phrosiect rhanbarthol sawl carreg filltir allweddol.
Gwnaeth y rhaglen Sgiliau a Thalentau fwrw ymlaen â chyflawni dros 30 o brosiectau peilot drwy weithio gyda diwydiant, er mwyn sicrhau bod sgiliau newydd y dyfodol yn cael eu bodloni er budd y rhanbarth. Enillwyd gwobrau pellach gan ddau brosiect peilot a ariannwyd drwy'r rhaglen sef Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy a Pŵer Cynaliadwy, Ynni Adnewyddadwy ac Adeiladu (SPARC), gan ddangos cydnabyddiaeth bod y prosiect yn diwallu anghenion y diwydiant. Mae mwy na 26,000 o gyfleoedd sgiliau gwell a 38 o fframweithiau cyrsiau newydd wedi'u darparu hyd yma, gan ragori ar y targedau gwreiddiol. Parhaodd y rhaglen i ddatblygu ei phartneriaethau strategol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat er mwyn sicrhau bod y rhanbarth yn elwa ar weithlu medrus i ateb galw uniongyrchol y diwydiant, yn ogystal â'r anghenion o ran sgiliau y dyfodol.
Mae'r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn llywio'r gwaith o gyflwyno dyluniad effeithlon o ran ynni a thechnolegau adnewyddadwy mewn cartrefi. Ar ôl lansio'r Gronfa Cymhellion Ariannol eisoes yn 2024, dyrannwyd y rhan fwyaf o'r £5.75m i 22 cynllun tai, gan fod o fudd i dros 500 o gartrefi â thechnolegau adnewyddadwy ledled y rhanbarth. Lansiodd Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer ei Gronfa Cadwyn Gyflenwi, sef cronfa gwerth £7 miliwn sy'n cefnogi datblygiad cadwyn gyflenwi ranbarthol gynaliadwy. Cynhaliodd y prosiect hefyd ei ddigwyddiad cyntaf mewn cydweithrediad ag Ysgol Bensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd i drafod Monitro a Gwerthuso Technegol y cynlluniau tai ac i rannu'r dysgu gyda landlordiaid cymdeithasol.
Cyflawnodd y rhaglen Seilwaith Digidol gynnydd sylweddol hefyd, gan wella cysylltedd ar draws De-orllewin Cymru. Ymhlith y cyflawniadau allweddol mae'r Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang i gysylltu dros 1,500 o adeiladau anodd eu cyrraedd, gwaith uwchraddio ffeibr llawn gwerth £1.9 miliwn ar gyfer 69 o safleoedd yn y sector cyhoeddus, a chytundebau mynediad agored newydd yn Abertawe i roi hwb i seilwaith symudol. Mae prosiectau mawr fel Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain a Ffeibr Tywyll Sir Gaerfyrddin yn hyrwyddo cydweithredu a gwasanaethau mwy clyfar, tra bod partneriaethau masnachol wedi dod â band eang ffeibr i ddegau o filoedd o gartrefi. Ochr yn ochr â seilwaith, mae'r rhaglen wedi gyrru mentrau gwerth cymdeithasol i gau'r rhaniad digidol, gan sicrhau bod cymunedau yn elwa o well mynediad a chyfleoedd.
Yn ogystal, gwnaeth y prosiectau mewn lleoliadau penodol ddathlu llwyddiant a chyflawni cerrig milltir allweddol yn 2025.
Yng nghanol dinas Abertawe agorwyd 71/72 Ffordd y Brenin yn swyddogol yn yr haf. Wedi'i ddatblygu gan Gyngor Abertawe, mae'r cynllun swyddfa newydd eisoes wedi croesawu tenantiaid cyffrous gan gynnwys y gweithredwr teithio a hamdden TUI, y busnes newydd o Gymru sy'n eiddo i Amazon Veeqo, y darparwr gweithfannau hyblyg IWG, a'r cwmni ariannol Futures First. Mae hyn yn golygu bod 80% o ofod swyddfa'r adeilad bellach wedi'i osod, a disgwylir rhagor o gyhoeddiadau am denantiaid yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Agorodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant y Matrics Arloesi yn swyddogol yn y gwanwyn - adeilad o'r radd flaenaf sy'n cysylltu busnes a'r byd academaidd. Bellach wedi'i feddiannu'n llawn gyda mwy na 22 o fusnesau mae wedi dod yn ganolfan fywiog ar gyfer arloesi digidol, entrepreneuriaeth a chydweithio ar draws sectorau.
Dathlodd Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe dros 3 blynedd o weithrediad, gan groesawu dros 245,000 o ymwelwyr yn ystod 2025 a dros 910,000 ers iddi agor gyntaf. Ymhlith y prif berfformiadau roedd The Manic Street Preachers, Paddy McGuinness ac Alison Moyet, yn ogystal ag ystod amrywiol o ddigwyddiadau, cynadleddau a seremonïau.
Agorodd Canolfan Pentre Awel, dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, ei drysau i'r cyhoedd ym mis Hydref a chynhaliwyd yr agoriad swyddogol a fynychwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr. Fel un o'r cynlluniau adfywio mwyaf yn Ne-orllewin Cymru, mae hwn yn gyfleuster o'r radd flaenaf sy'n cyfuno ymchwil feddygol a meithrin busnesau, darpariaeth gofal iechyd, addysg a hyfforddiant ynghyd â chyfleusterau hamdden i annog pobl i fyw bywydau actif ac iach.
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd (NISH), dan arweiniad Prifysgol Abertawe, wedi mwynhau cyfnod sylweddol arall o gynnydd a chydnabyddiaeth, wedi croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ymweliad â'r prosiect ac wedi arddangos ei gyfleusterau i arweinwyr y diwydiant. Roedd NISH yn falch o gael ei enwi'n ail ar gyfer Gwobr Arloesedd MediWales, noddi'r Gwobrau Technoleg Chwaraeon, a chynnal trafodaeth panel yng Nghynhadledd Canol Dinas Abertawe 4theRegion. Cyhoeddwyd partneriaeth newydd gyda'r Gweilch a chroesawyd Vodafone fel tenantiaid newydd i'r Brifysgol. Dechreuodd y prosiect hefyd weld yr effaith wirioneddol o'r Asesiad o Anghenion Iechyd gydag ARCH (Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd).
Gwnaed cynnydd hefyd ar y rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Cymeradwywyd cynlluniau ar gyfer y cyfleuster Canolfan Ddiwydiannol Pontio o Garbon De Cymru (SWITCH) newydd yng Nglannau'r Harbwr, a dechreuodd y gweithgarwch cyn adeiladu. Ar ôl ei chwblhau, bydd y ganolfan arloesi gydweithredol hon yn helpu i ddatgarboneiddio'r diwydiant dur a metelau a'i gadwyn gyflenwi, yn cryfhau cydweithio rhwng y diwydiant a'r byd academaidd ac yn diogelu'r diwydiant dur a metelau yng Nghymru a'r DU yn y dyfodol. Croesawyd tenantiaid pellach i Ganolfan Dechnoleg Bae Abertawe, sy'n effeithlon o ran ynni ac sydd wedi ennill gwobrau, sydd bellach yn agos at fod yn llawn. Cwblhawyd dau brosiect fel rhan o Gam 1 y Gronfa Datblygu Eiddo, gyda dau brosiect arall ar y gweill, ac agorwyd ceisiadau ar gyfer Cam 2. Caffaelwyd tir hefyd ar gyfer y Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu Uwch.
Roedd Yr Egin, sydd wedi'i leoli ar gampws Caerfyrddin Prifysgol y Drindod Dewi Sant ac yn gartref i bencadlys S4C ochr yn ochr â 15 o gwmnïau creadigol a digidol, wedi'i feddiannu'n llawn drwy gydol 2025. Nododd y ganolfan sector creadigol saith mlynedd lwyddiannus o weithrediad gyda rhaglen o ddigwyddiadau mawr, dangosiadau, perfformiadau a gweithdai addysgol, a darparodd gyfleusterau ffrydio byw, ôl-gynhyrchu a gweithfannau cyfleus o ansawdd uchel i ystod eang o gleientiaid a busnesau.
Mae Ardal Forol Doc Penfro hefyd wedi cyrraedd cerrig milltir allweddol. Parhaodd Porthladd Penfro â'i weithrediadau masnachol o'r lle storio a'r pontynau cychod gwaith a chroesawyd tenantiaid ychwanegol i Randai'r Awyrendai. Cafodd Porthladd Aberdaugleddau hefyd ei achredu fel sefydliad Great Place To Work Certified' am y drydedd flwyddyn yn olynol. Darparodd yr Ardal Profi Ynni'r Môr (META) gyfleusterau profi'r môr a gymeradwywyd ymlaen llaw ar gyfer technolegau ynni'r môr. Gan adeiladu ar lwyddiant META, ysgogodd prosiect Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol fuddsoddiad yn y sector preifat trwy brosiectau a arweinir gan brifysgolion a'r diwydiant. Defnyddiodd Parth Arddangos Sir Benfro ei ardal brydles i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a dilysu technolegau o ran tonnau a llanw sy'n dod i'r amlwg.
Wrth edrych ymlaen at 2026, bydd y Fargen Ddinesig yn parhau i gyflymu'r broses o gyflawni canlyniadau, gyda phrosiectau mawr fel SWITCH a NISH yn mynd i mewn i'r camau adeiladu a buddsoddiad pellach mewn cysylltedd digidol ac ynni adnewyddadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
"Mae cynnydd y Fargen Ddinesig yn ystod 2025 wedi bod yn ardderchog, ac mae'n wych gweld cymaint o'n hadeiladau bellach ar agor ac yn cael eu gweithredu. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn Ne-orllewin Cymru drwy'r Fargen Ddinesig a mentrau ategol eraill dros y 12 mis nesaf, wrth i ni ymdrechu i drawsnewid ein rhanbarth ac adeiladu dyfodol gwell i ni i gyd. Mae'n anrhydedd i mi fod yn rhan o'r daith gyffrous hon ac edrychaf ymlaen at y cyfleoedd a'r cyflawniadau sydd i ddod."