Cyngor Sir Caerfyrddin yn dathlu agoriad swyddogol Canolfan Pentre Awel yng nghwmni Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Ar 11 Rhagfyr 2025, daeth y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Anna McMorrin Aelod Seneddol, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, a Rebecca Evans Aelod o’r Senedd, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ynghyd i agoriad swyddogol Canolfan Pentre Awel yn Llanelli.

Er bod Canolfan Pentre Awel wedi agor ei drysau i'r cyhoedd ar 15 Hydref, roedd y digwyddiad heddiw yn nodi dathliad swyddogol o'r prosiect nodedig, gan gydnabod y bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor lleol a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth gyflawni un o ddatblygiadau mwyaf uchelgeisiol Cymru.

Dyma un o'r cynlluniau adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru. Canolfan Pentre Awel yw cam cyntaf y prosiect hwn, sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sydd wedi'i ariannu ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin. Rhoddwyd £40 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru). Mae Canolfan Pentre Awel yn brosiect ar y cyd, sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

"Mae Canolfan Pentre Awel yn enghraifft wych o beth allwn ni ei wneud  drwy gydweithio ar bob lefel o lywodraeth. Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â gwella bywydau, sbarduno arloesedd a chreu cymuned iachach a mwy cysylltiedig ar gyfer cenedlaethau i ddod. Drwy gydol y prosiect, mae Canolfan Pentre Awel wedi helpu i gefnogi cyflogaeth drwy greu 76 o swyddi newydd, 62 o gyfleoedd prentisiaeth a rhagwelir y bydd yn creu 1,800 o swyddi a chyfleoedd prentisiaethau wrth i'r prosiect ddatblygu."


Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

"Rydyn ni'n hynod o falch o groesawu Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i Lanelli heddiw, i weld yn uniongyrchol yr effaith y gall buddsoddiad mawr ei chael ar bobl leol. Mae'n wych gweld y cyhoedd eisoes yn manteisio ar y cyfleuster newydd a gwell hwn. 

Dywedodd Anna McMorrin, Gweinidog Swyddfa Cymru:

"Mae hwn yn gyfleuster arbennig ac yn enghraifft wych o sut mae cyllid Llywodraeth y DU, drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn cyfrannu at dwf economaidd a chreu swyddi sy'n talu'n dda ledled Cymru.

"Mae Canolfan Pentre Awel yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i fusnesau sy'n gweithio ym meysydd gwyddorau bywyd ac iechyd a llesiant ac mae'n adeiladu ar sector sydd eisoes yn gryf yng Nghymru.

"A bydd y gymuned leol hefyd yn elwa ar y cyfleusterau hamdden gwych sydd ar gael."


Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

"Mae Canolfan Pentre Awel yn ddatblygiad unwaith mewn cenhedlaeth ar gyfer Llanelli a Sir Gaerfyrddin. Y cyntaf o'i fath yng Nghymru, mae'n dwyn ynghyd gofal iechyd, ymchwil, addysg, arloesi busnes, hamdden a byw â chymorth ar un safle integredig, gan greu canolfan fywiog.

"Dros y blynyddoedd nesaf bydd yn creu bron i 2,000 o swyddi, yn sbarduno arloesedd ym maes gwyddorau bywyd, ac yn rhoi hwb o gannoedd o filiynau i'r economi ranbarthol - gan wneud yr ardal yn ganolbwynt ar gyfer iechyd a llesiant.
"Mae'n enghraifft ddisglair o bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector yn cydweithio er budd cymunedau.

Canolfan Pentre Awel - i gael gwybod mwy, ewch i'r wefan. Pentre Awel