Heddiw (21 Awst 2024), lansiodd Dirprwy Brif Weinidog y DU, Angela Rayner, Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, a'r Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddatblygiad Hwb Morol Doc Penfro yn swyddogol – hwb amlbwrpas sy’n barod ar gyfer ynni'r dyfodol ac sy'n canolbwyntio ar arloesi ac effeithlonrwydd gweithredol.
Mae Hwb Morol Doc Penfro yn ddatblygiad gwerth £60 miliwn, a ariennir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe drwy Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddiad preifat gan Borthladd Aberdaugleddau a fydd yn helpu i ysgogi uchelgais Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni glân.
Mae'r datblygiad wedi darparu seilwaith porthladd newydd sy'n arwain y byd yn Noc Penfro ochr yn ochr ag Ardal Profi Ynni Morol Cymru (META) a Chanolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol, ac wedi hyrwyddo potensial Parth Arddangos Sir Benfro – y cyfan gyda'r nod o ysgogi arloesedd a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer twf diwydiannol. Mae wedi profi i fod yn rhaglen gydweithredol ganolog ac yn esiampl o lwyddiant i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe, gan ddenu sylw buddsoddwyr a datblygwyr ynni adnewyddadwy byd-eang a darparu llwyfan strategol ar gyfer uchelgais Clwstwr Ynni Aberdaugleddau ac, yn fwy diweddar, cais llwyddiannus y Porthladd Rhydd Celtaidd.
Dywedodd y Dirprwy Prif Weinidog Angela Rayner: “Heddiw, mae treftadaeth hir Sir Benfro o ragoriaeth morwrol yn arwain y ffordd i ddyfodol y DU gyda lawnsiad y rhaglen Doc Penfro Morol.
“Mae hyn yn gam mawr tuag at ddod yn arweinydd byd ym mheirianneg forol di-garbon a thaclo newid hinsawdd ar gyfer dyfodol mwy glan, mwy gwyrdd a mwy uchelgeisiol i ni gyd.
“A dyfodol lle gallwn weld ein uchelgais beiddgar ar dwf a swyddi i ac ym mhob rhan o’r DU fynd law yn llaw gyda ein uchelgais ar Sero Net a ynni cynaliadwy.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan wrth gyflawni'r prosiect seilwaith pwysig hwn a fydd yn drawsnewidiol i'r rhanbarth wrth i ni dyfu economi carbon isel Cymru ymhellach. Mae'n enghraifft wirioneddol o fanteision partneriaeth rhwng busnesau’r sector preifat a'r llywodraeth ar lefel leol, genedlaethol a’r DU.
“Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae'n garreg filltir bwysig yn ein taith tuag at wireddu’r cyfleoedd y gall gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd eu cynnig – ac mae ganddo botensial gwirioneddol i greu swyddi o ansawdd uchel a chefnogi twf economaidd cynaliadwy. Mae hefyd yn ein galluogi i barhau ar ein taith i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd gyda'n gilydd ar gyfer Cymru werdd a ffyniannus.”
Tynnodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, sylw at arwyddocâd y buddsoddiad hwn: “Er mwyn i'r DU ddod yn uwch bŵer ynni glân, mae angen porthladdoedd wedi'u moderneiddio arnom, yn union fel yr un yma yn Noc Penfro, a fydd yn asgwrn cefn hybiau ynni'r dyfodol.
“Mae Llywodraeth y DU yn falch o fuddsoddi yn y prosiect hwn. Mae Cymru ar flaen y gad o ran ein huchelgeisiau ar gyfer GB Energy a bydd cyfleusterau fel Hwb Morol Doc Penfro yn cyfrannu at ein nodau sero net, gan ostwng biliau ynni a chreu swyddi medrus i bobl Sir Benfro.”
Dywedodd Tom Sawyer, Prif Swyddog Gweithredol Porthladd Aberdaugleddau: “Mae heddiw yn benllanw blynyddoedd o waith caled i greu Porthladd amlbwrpas sy’n barod ar gyfer ynni’r dyfodol yn Noc Penfro. Bydd y seilwaith galluogol, hanfodol hwn, a wnaed yn bosibl drwy gydweithio cyhoeddus a phreifat, yn darparu'r sylfaen ar gyfer economi gylchol werdd, sy'n gyfoethog o ran cyfleoedd cadwyni cyflenwi lleol, i ffynnu yn ne-orllewin Cymru. Gan fod diwydiant yn cael ei ddenu fwyfwy at y cyfleusterau a'r gwasanaethau newydd hyn, disgwylir i'r hwb hwn greu dros 1,800 o swyddi. Ond nid yw ein huchelgais yn dod i ben yma; rydym yn barod i wneud buddsoddiadau pellach i ddarparu ar gyfer gofynion y sector ynni gwyrdd sy'n esblygu'n gyflym fel bod Cymru'n elwa ar y diwydiant newydd hwn.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, “Mae'r Fargen Ddinesig yn gwneud cynnydd sylweddol gyda'r holl brosiectau ar y cam cyflawni. Mae Hwb Morol Doc Penfro, un o brosiectau’r Fargen Ddinesig, yn tyfu'r economi ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth gan ganolbwyntio’n benodol ar y sector ynni a thechnolegau adnewyddadwy. Bydd y buddsoddiad hwn ym Mhorthladd Penfro yn adfywio Doc Penfro a'r rhanbarth ehangach drwy ddarparu canolfan ar gyfer yr economi ynni gwyrdd, sy'n hanfodol ar gyfer dyfodol de-orllewin Cymru. Ynghyd â llwyddiant diweddar cais y Porthladd Rhydd Celtaidd, mae'n cryfhau ein huchelgais i greu rhanbarth llewyrchus i fusnesau ffynnu ac i drigolion gael mynediad at swyddi sy'n talu'n dda, nawr ac yn y dyfodol.”