Mae Pentre Awel yn cynnal dwy sesiwn galw heibio ddydd Mercher 15 Ionawr 2025, rhwng 9:30am a 12:30pm (sesiwn bore i’r prynhawn) a rhwng 15:30pm a 18:30pm (sesiwn gyda'r nos) yng Nghanolfan Antioch Llanelli i ymgysylltu â'r gymuned leol yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn mawr obeithio y gallwch ymuno â ni. Bydd ein swyddogion wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a dangos y delweddau diweddaraf o ran y gwaith datblygu a beth i'w ddisgwyl yn barod ar gyfer yr agoriad yng Ngwanwyn 2025.
Pwrpas y digwyddiad yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Canolfan, Pentre Awel yn ogystal â rhoi trosolwg o'r weledigaeth, y cysyniad a'r cyfleoedd. Mae Pentre Awel, yn 1 o 9 prosiect sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Cysyniad a gweledigaeth Canolfan yw cynnig cyfleoedd ar gyfer darparu gofal iechyd, ymchwil ac arloesi cysylltiedig, addysg a hyfforddiant ochr yn ochr â chyfleusterau sy'n cefnogi ac yn annog pobl i fyw bywyd egnïol ac iach.
Mae cyfleoedd llety hefyd ar gael i fusnesau newydd a busnesau presennol sy'n cefnogi'r weledigaeth gyffredinol.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
"Dylai unrhyw un sydd â diddordeb ym Mhentre Awel fynychu un o'r sesiynau galw heibio a siarad â thîm Pentre Awel a fydd yn gallu ateb eich cwestiynau. Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn hanfodol i Brosiect Pentre Awel i sicrhau bod y gymuned leol yn parhau i fod wrth wraidd y datblygiad arloesol ac unigryw hwn."